Mae saith o naw cadair a grëwyd ar gyfer Eisteddfodau Cymrodyr ym mhentref Dolwyddelan, Sir Gonwy rhwng 1923 a 1931 wedi dod at ei gilydd mewn un lle am y tro cyntaf erioed ar gyfer pennod o raglen Cynefin ar S4C.

Yn y bennod sy’n cael ei darlledu wythnos nesaf (Ebrill 30), mae’r cyflwynydd Ffion Dafis yn cwrdd ag Alun Lloyd Price sydd wedi treulio degawd yn olrhain hanes y cadeiriau, a’r hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw ers iddyn nhw gael eu hennill.

Cynhaliwyd naw Eisteddfod Cymrodyr yn Nolwyddelan rhwng 1923 a 1931, ac roedd yr Eisteddfod yn enwog yn ei chyfnod am y cystadleuwyr hynod dalentog fyddai’n teithio o bell i gymryd rhan.

Saer lleol o’r pentref, Huw Jones, oedd yn gyfrifol am wneud y naw cadair, ac mae ei enw wedi ei gerfio ar bob cadair fel ‘H. Jones, Dolwyddelen’, sef hen sillafiad enw’r pentref.

Dychwelyd y cadeiriau at eu teuluoedd

Dechreuodd diddordeb Alun yn y cadeiriau pan soniodd ffrind iddo fod ganddo un ohonyn nhw yn ei dŷ.

“Roeddwn i’n gwybod am yr Eisteddfod yn Nolwyddelan, ond doedd gen i ddim syniad am unrhyw gadeiriau,” meddai.

“Ond mi ddangosodd gadair 1931 i mi ac fe ddatblygodd y cyfan o hynny.”

Dros y blynyddoedd mae Alun wedi derbyn tair o’r cadeiriau mae wedi dod o hyd iddyn nhw fel anrhegion gan bobol nad oedd yn gwybod eu hanes ac yn meddwl y byddai Alun yn fwy gwerthfawrogol ohonyn nhw.

Mae hefyd wedi ceisio dod o hyd i deuluoedd yr enillwyr gwreiddiol fel y gall y cadeiriau barhau i fod yn rhan o hanes eu teulu.

Trwy waith ditectif Alun, mae Bryan Sanders o Ddyffryn Ardudwy bellach gyda chadair 1924 yn ei gartref.

Credir bod y gadair hon yn unigryw oherwydd mai dyma’r unig gadair Eisteddfodol i’w dyfarnu i gôr yn hytrach nag i unigolyn yn ôl y cyn Archdderwydd, Robyn Lewis.

Cysylltodd Alun â Bryan, nai arweinydd y cor, a rhoddodd y gadair iddo.

Stori am gyfnod coll

Roedd Alun wrth ei fodd pan deithiodd tîm cynhyrchu Cynefin cyn belled â Milton Keynes i gasglu’r seithfed gadair ar gyfer y rhaglen.

“Roedd o’n brofiad anhygoel,” meddai.

“Ar ôl treulio cymaint o amser yn ceisio dod o hyd iddyn nhw, roedd o’n deimlad arbennig.”

Drwy hanes y cadeiriau, caiff stori am gyfnod coll, y bobol a’u henillodd a’r rheini sydd wedi rhoi cartref iddyn nhw dros y blynyddoedd ei hadrodd hefyd.

Un o’r bobol hynny yw Mair Warwick sy’n byw yn Milton Keynes ac yn berchen ar gadair 1923 a enillwyd gan ei thad, John Ellis Williams o Ryd-Ddu. Collodd Mair ei rhieni pan oedd yn naw oed a gwahanwyd hi a’i brodyr.

Fel oedolyn aeth ati i chwilio amdanyn nhw a daeth o hyd i un o’i brodyr yn byw yn Llanrheadr ym Mochnant gyda’u modryb a’r gadair.

Bellach mae gan Mair y gadair yn ei chartref yn Milton Keynes er cof am ei thad.

“Rwy’n hapus i weld fy nhad a’r gadair yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu ar ôl bron i 100 mlynedd,” meddai.

Cadeiriau 1927 ac 1928

Dros y blynyddoedd, mae Alun Price wedi llwyddo i ddod o hyd i saith o’r cadeiriau ond hyd yn hyn dydy’r ymdrechion i ddod o hyd i gadeiriau 1927 ac 1928 heb fod yn llwyddiannus.

Mae Cynefin yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i’r ddwy gadair arall er mwyn dod i ddeall eu stori hwythau hefyd a gwireddu breuddwyd Alun o ddod o hyd i’r casgliad cyfan.

“Gweld y ddwy gadair arall – dyna fyddai’r brif wobr i mi,” meddai Alun.