Rheolwr siop Awen Meirion yn y Bala yw enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru eleni, ac mae’n “werthfawrogol iawn o’r gydnabyddiaeth”.

Mae Gwyn Siôn Ifan yn rheolwr gyfarwyddwr ar y siop ers 1990, ac mae’n pwysleisio bod y wobr yn gydnabyddiaeth i holl waith Awen Meirion ers iddi agor hanner canrif yn ôl.

Cafodd cwmni Awen Meirion ei sefydlu gan unarddeg o gyfarwyddwyr yn 1971, bedair blynedd ar ôl i siop Gymraeg gyntaf Cymru, Siop y Pethe, agor yn Aberystwyth.

Agorodd y siop ei hun flwyddyn yn ddiweddarach, dan arweiniad gwirfoddolwyr am y flwyddyn cyn i Alan Llwyd ddod yn rheolwr cyntaf arni, gan werthu llyfrau Cymraeg a llyfrau am Gymru, cardiau, crefftau a cherddoriaeth.

“Dw i’n lwcus fy mod i wedi glanio yn y swydd iawn ar yr amser iawn, a blynyddoedd yn ddiweddarach bod pethau wedi gweithio’n iawn a bod gen i swydd dw i’n mwynhau ei gwneud,” meddai Gwyn Siôn Ifan wrth golwg360.

“Mae’r gefnogaeth, boed hynny’n gefnogaeth stepen drws neu’n genedlaethol, wedi bod yn anhygoel i gynnal Awen Meirion.

“Mae yna gymaint o lyfrwerthwyr eraill sy’n gweithio’n ofnadwy o galed i hybu’r byd llyfrau, mae pob un yn haeddu cydnabyddiaeth.

“Dw i’n werthfawrogol iawn, iawn ac yn diolch am y gefnogaeth dw i ac Awen Meirion wedi’i chael.

“Dw i’n edrych ymlaen at y dyfodol, i ddatblygu be rydyn ni’n wneud a meddwl am ffyrdd gwahanol o’i wneud o – ein bod ni ddim yn sefyll yn ein hunfan, ond ein bod ni’n gyrru’r farchnad lyfrau yn ei blaen, ac yn gwneud ein gorau i hybu a datblygu’r farchnad dros y flwyddyn nesaf.”

‘Ymateb hynod’

Rhan braf o’r gwaith ydy cydweithio ag awduron a chyhoeddwyr, yn ôl Gwyn Siôn Ifan, sydd wedi cynnal degau ar ddegau o lansiadau a sesiynau arwyddo yn y siop dros y blynyddoedd.

“Mae cael y gydnabyddiaeth yna gan y Cwlwm Cyhoeddwyr yn golygu llawer iawn,” meddai.

“Maes o law, mae rhywun yn gobeithio fydd o’n gallu gadael yr awenau yng ngofal rhywun arall i’w ddatblygu ymhellach ac i roi stamp eu hunain ar y gwaith gan fod pethau’n datblygu, ac yn aml iawn mae angen ffresni a meddwl newydd a syniadau newydd er mwyn cynnal y busnes.

“Mae’r ymateb wedyn wedi bod yn hynod, ac mae o wedi bod yn anhygoel.

“Dydy rywun byth yn ei wneud o i gael ryw gydnabyddiaeth, ond yn amlwg mae’r gefnogaeth gan y cyhoedd, ar y cyfryngau cymdeithasol yn enwedig a thrwy alwadau ffôn, wedi bod yn hynod.

“Dw i mor ddiolchgar o’u cefnogaeth nhw i gyd.

“Dw i’n derbyn y gydnabyddiaeth yn hapus iawn, ac yn ddiolchgar iawn ohoni.

“Nos Wener mi fyddan ni’n cael swper dathlu’r 50, ac yn ystod y noson mi fydd Cadeirydd y Cwlwm Cyhoeddwyr yn bresennol.”

Y Siop Llyfrau Cymraeg sy’n dathlu’r hanner cant

Cadi Dafydd

Mae siop Awen Meirion yn y Bala “wedi bod yn gyrchfan wleidyddol dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf”