Yn ôl yn 2020, fues i’n rhan o brosiect hyfryd draw ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Roedd y darlithwyr yn yr ysgol gelf wedi bod yn greadigol iawn wrth lunio modiwl i’r myfyrwyr blwyddyn gyntaf, gyda’r nod o roi profiad iddyn nhw o weithio hefo ‘cleientiaid’.
Roedden nhw wedi cysylltu â phedair ohonom fel beirdd i gydweithio ar lunio llyfr barddoniaeth a chelf arbennig – wedi ei bwytho â llaw. Hyfryd!
Cawsom gyfarfodydd dros Zoom, gyda’r myfyrwyr yn gofyn cwestiynau i ni am y cerddi – ystyr, teimlad, pa fath o ddelweddau fysen nhw’n ei hoffi, a hefyd sut y byddem eisiau iddyn nhw gael eu cysodi – mae hyn yn fater hollbwysig hefo rhai cerddi.
Roedd yr holl brosiect yn brofiad hyfryd; cefais gynnwys pedair cerdd: Y ras i gynganeddu, Cwilt clytwaith Goareig, Pan ddaeth y sêr i Dreffin ‘cw, a Bardd beiddgar y bordor (oedd yn deyrnged i Dorothy ‘Dot’ Miles).
Ar ddiwedd y prosiect, cawsom lyfr yr un yn anrheg, ac mae fy nghopi’n un o fy hoff bethau yn y byd mawr crwn!
Gwahoddiad i’r arddangosfa gradd
Ryw bythefnos yn ôl, ges i e-bost yn fy ngwahodd i lansiad arddangosfa o’r cerddi a’r celf, fel rhan o arddangosfa gradd y myfyrwyr. Felly yr wythnos ddiwethaf, gyrrais draw i gampws celf Prifysgol Glyndŵr yn llawn chwilfrydedd a bwrlwm!
Yn y dderbynfa, roedd torf o bobol yn siarad yn fyrlymus, ac mi roedd yna stondin diodydd, gan gynnwys rym Pontarfynach! Maen nhw’n mwydo’r rym hefo bara brith (nid yw’n ddi-glwten, felly) ac roedd gen i’r car, felly ges i ginger ale hefo sleis o leim yn lle… neis iawn, rhaid dweud!
Roedd yr holl adeilad yn llawn dop o bobol greadigol, i gyd yn bwhwman o amgylch y coridorau (oedd â chelf ar y waliau) ac yn mentro i’r stafelloedd oedd yn llawn celf oedd yn cael ei arddangos a’i werthu. Gwelais rai o’r myfyrwyr o’r prosiect, a ges sgyrsiau hyfryd hefo nhw.
Yn un o’r coridorau, roedd yr arddangosfa o’n prosiect ni ac roedd yn brofiad cyffrous gweld fy ngherddi ar y wal, ynghyd â’r portread ohonof a gafodd ei lunio gan un o’r myfyrwyr. Felly dyna lle roeddwn i, yn hongian o gwmpas yn browd, pan ddaeth un o’r darlithwyr draw i siarad… a hefo fo, neb llai na Colin Jackson – ia, wir!
Cwrdd â Colin
Colin Jackson yw Canghellor Prifysgol Glyndŵr, ac yn amlwg roedd wedi dod draw i fod yn gefnogol fel rhan o’i rôl swyddogol. Ond, O! Am berson hyfryd a hynod ddiddorol!
Weithiau, mae rhywun yn cwrdd â ‘seleb’ neu berson pwysig mewn rôl tebyg, ac maen nhw’n gwrtais ond yn amlwg heb fawr o ddiddordeb mewn bod ene… ond oni bai ei fod e’n actor arbennig o dda, yn ogystal â bod yn athletwr o fri, nid oedd hyn yn wir am ein Canghellor ni.
A na, wnes i ddim gofyn am hunlun na llun ohono chwaith. Fysa hyn wedi bod yn amhriodol a bur debyg y byddai wedi denu ciw! Ond hefyd, roeddwn yn rhy brysur yn cael sgwrs hynod, hynod ddiddorol, wedi iddo ofyn i mi, “Sut deimlad oedd hi i chi, fel beirdd, yn cael y myfyrwyr yn eich holi”. Wel, dyna i chi gwestiwn!
Dechreuais resymu, ei bod hi wedi bod yn fwy anodd hefo rhai o’r cerddi nag eraill – er enghraifft, hefo ‘y ras i gynganeddu’, roeddwn wedi gorfod gwthio fy hun i’w sgwennu, gan ei fod ar fater heriol, poenus. Ac yna, fisoedd wedyn, roedd yn anodd mynd yn ôl i’r meddylfryd hwnnw.
Synfyfyrio seicoleg barddoniaeth a rasio
Yn gwbl annisgwyl, dyma fo’n uniaethu’n llwyr, gan ddweud mai dyma ei benbleth e, ar ôl ras, pan fyddai pobol yn gofyn iddo sut roedd yn teimlo wrth ennill y ras. Esboniodd fod teimlad y ras yn cael ei ddisodli gan atgof gaiff ei greu o wylio’r ras, ar fideo, yn hwyrach ymlaen.
Waw! Wel, roedd hwn yn ddiddorol yn ei hun, wrth gwrs, oherwydd yr hyn a wyddom am atgofion yn cael eu disodli, ac yna’r atgof newydd yn teimlo’n gwbl wir, er nad yw e.
Ond roedd y cysylltiad rhwng barddoniaeth a rasio yn rywbeth nad oeddwn wedi ei ystyried o’r blaen, er fy mod wedi gwneud y ddau beth, ac wedi astudio seicoleg yn ymwneud â’r cysylltiad rhwng y corff a’r meddwl, a’r ‘fight or flight’ a’i oblygiadau. Hmm!
Dwi dal wrthi’n prosesu’r sgwrs honno, a dweud y gwir, ond mae hi wedi codi pob math o sgwarnogod i mi eu dilyn…
Mae’n ryfeddol, yn tydi, sut yr ydym yn ‘dysgu’ bwrw ein hunain mewn i ryw feddylfryd arbennig, er mwyn cyflawni ein nod yn y modd gorau fedrwn ni – crynhoi ein holl egni a’n gallu am gyfnod byr, ac yna’n cau’r drws… i warchod ein hunain, efallai.
Dyma, felly, fues yn synfyfyrio drosto, wrth gerdded trwy’r Ddinas-Sir, yng ngolau heulog y noson boho hon, ar fy ffordd i fy hoff siop Kebabs yn y byd…!
Un noson heulog yn Wrecsam