Mae Cyngor Gwynedd wedi clywed bod rhywun digartref newydd yn dod i’r amlwg bob awr a hanner yng Ngwynedd.
Clywodd Cabinet Cyngor Gwynedd fod gan y rhanbarth 652 o bobol ddigartref ar gofnod.
Mae’r sir wedi gweld cynnydd “syfrdanol” mewn digartrefedd.
Cafodd y ffigurau brawychus eu cyflwyno mewn adroddiad tai gafodd ei gyflwyno gan y Cynghorydd Craig ab Iago, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros dai.
Disgrifiodd sut y mae’r “pwysau” ar wasanaeth digartrefedd yr adran dai wedi “cynyddu’n ddirfawr”.
Prisiau tai
Mae 36 o blant bellach mewn llety gwely a brecwast, a 62 o blant mewn cartrefi dros dro.
Fe wnaeth ei adroddiad ddatgelu hefyd fod 6,997 o blant yng Ngwynedd bellach yn cael eu hystyried fel rhai sy’n “byw mewn tlodi” – sy’n cyfateb i oddeutu 34.4% o bobol ifanc.
Doedd mwy na 3,000 o bobol ar y rhestr aros ar gyfer tai cymdeithasol, a 65% o drigolion Gwynedd, ddim yn gallu fforddio prynu cartref yn 2020.
Dywed y Cynghorydd Craig ab Iago fod mwy na 40% o stoc dai’r rhanbarth oedd ar y farchnad yn 2019 wedi mynd i brynwyr ail gartrefi, a bod oddeutu 15% o’r stoc wedi’i “ddefnyddio fel rhywle i ddianc neu fel eiddo i fuddsoddi – yn hytrach na chartrefi”.
£244,000 oedd pris cyfartalog tai yng Ngwynedd, ond gyda chyflogau’n £30,000 ar gyfartaledd, roedd pris tai bellach yn wyth gwaith y cyflog blynyddol, a morgeisi a thai yn anfforddiadwy i lawer.
£700 oedd y rhent cyfartalog – “os gallwch chi ddod o hyd i eiddo i’w rentu hyd yn oed”, meddai.
Nododd yr adroddiad tai hefyd fod yna gynnydd o 48% yn nifer y rhai oedd yn cyflwyno’u hunain fel pobol ddigartref rhwng y blynyddoedd ariannol 2019-20 a 2021-22, yn ogystal â chynnydd o 186% yn y niferoedd oedd yn aros mewn llety dros dro.
Roedd disgwyl y bydd y data ar gyfer 2022-23 yn parhau’n uchel.
“Rydan ni’n byw yng nghanol argyfwng tai gwirioneddol,” meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago.
‘Argyfwng tai gwirioneddol’
Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at yr hyn sy’n achosi digartrefi, gan gynnwys effaith ail gartrefi a llety gwyliau, y pandemig, newidiadau deddfwriaethol ynghylch yr hawl i gymorth digartrefedd, dirwyn Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru i ben, prisiau cynyddol a’r argyfwng costau byw a phenderfyniadau landlordiaid i ddirwyn tenantiaeth i ben er mwyn symud at farchnadoedd mwy llewyrchus.
Gan ddefnyddio fideo, fe wnaeth y Cynghorydd Craig ab Iago ddisgrifio cyfres o “ymdrechion positif” sydd ar y gweill hefyd fel rhan o gynllun gweithredu tai’r Cyngor er mwyn mynd i’r afael â’r materion.
Yn ystod y cyfarfod, fe wnaeth y Cabinet gytuno i gymeradwyo cefnogaeth ariannol ar gyfer elfennau o’r cynllun gweithredu.
Cytunodd hefyd i welliannau i’r achos busnes gwreiddiol ar gyfer benthyca, prynu tai i’w rhoi ar rent ar gyfer trigolion lleol, gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet yn eu cyfarfod ar Chwefror 16, 2021 a defnyddio £5.6m o bremiwm treth y cyngor i wneud hynny.
Premiwm
Roedd angen y penderfyniad gan nad oedd penderfyniad ffurfiol wedi’i wneud ynghylch sut i ddefnyddio’r arian ychwanegol gafodd ei greu trwy bremiwm treth y cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.
Cafodd y penderfyniad i gynyddu’r premiwm o 50% i 100% ei weithredu o fis Ebrill y llynedd.
Yn eu cyfarfod fis Rhagfyr 2020, roedd y Cabinet wedi cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu Tai 2020/21-2026/27, oedd yn cynnwys 33 o brosiectau ar y pryd ar draws pump o feysydd i ddarparu cartrefi.
Ond yn wreiddiol, roedd y cynllun yn seiliedig ar incwm o bremiwm treth y cyngor ar y gyfradd wreiddiol, 50%.
Roedd dyblu’r premiwm yn golygu bod tua £20m o arian ychwanegol ar gael bellach dros saith mlynedd y cynllun.
Mae’r Cynllun Gweithredu Tai yn rhedeg ers dwy flynedd, ac mae’n “dod yn ei flaen yn dda”.
Roedd Cynllun Prynu i Roi ar Rent wedi gweld wyth tai yn cael eu prynu, ac roedd potensial i hyd at 32 o unigolion elwa.
Fe fu “cryn ddiddordeb” mewn Cynllun Prynu Cartref, gafodd ei lansio fis Medi y llynedd, gyda phedwar teulu wedi prynu, 15 o geisiadau wedi’u cymeradwyo, a chwech arall wrthi.
Roedd cynllun tai gwag wedi gweld 104 o dai yn dod yn ôl i ddefnydd.
Ers ei lansio, roedd 173 o dai cymdeithasol wedi’u hadeiladu ledled Gwynedd, gyda chyllideb o £9.4m (2021/22), £12.3m (2022/23) a £13.5m (2023/24).
Ond ers lansio’r Cynllun Gweithredu Tai yn wreiddiol fis Ebrill 2021, fe fu cynnydd sylweddol mewn costau adeiladu a chostau llafur a deunyddiau megis timbr, dur a sment.
Mae cyfanswm o 88 yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd (ers Ebrill 2021), a bydd 113 yn rhagor yn dechrau dros y flwyddyn i ddod.
Er mwyn gwireddu uchelgais gwreiddiol y cynllun i brynu 100 o dair, roedd angen ystyried ariannu’r cynllun drwy fenthyg a chadw amodau’r farchnad “dan ystyriaeth gyson”.
Roedd hefyd yn argymell cau’r bwlch ariannol drwy ddefnyddio’r premiwm treth gyngor drwy fenthyg £13.7m a chyfraniad o £5.6m gan Gronfa’r Premiwm.
Roedd yr Adran hefyd wedi cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sefydlu darpariaeth i gefnogi unigolion mewn perygl o ddod yn ddigartref o ganlyniad i faterion iechyd meddwl.
Byddai’r Cynllun Gweithredu Tai hefyd yn gwneud cais am £80,000 o gronfa premiwm y Cyngor i gyfrannu tuag at y cynllun dros y ddwy flynedd nesaf.