Mae Heddlu’r De yn parhau i ymchwilio i farwolaethau tri o bobol ar ôl i’w cerbyd adael y ffordd a chael ei ganfod mewn ardal goediog ger Caerdydd.
Fe ddigwyddodd ar yr A48 yn Llaneirwg, a bu farw Rafel Jeanne, Darcy Ross ac Eve Smith, ac mae eu teuluoedd yn cael eu cefnogi gan yr heddlu wrth i archwiliadau post-mortem gael eu cynnal.
Mae dau o bobol eraill yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo, gan gynnwys archwilio deunydd camerâu cylch-cyfyng, mae’r heddlu wedi gallu dod i’r casgliad bod y cerbyd, Volkswagen Tiguan gwyn, wedi gadael y ffordd am 2.03yb ar ddydd Sadwrn, Mawrth 4.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion yn yr ardal allai fod wedi gweld y cerbyd yn teithio i gyfeiriad y dwyrain ar hyd Ffordd y Dwyrain yr A48 rhwng Caerdydd a Llaneirwg, neu y gall fod ganddyn nhw ddeunydd dashcam.
Does dim awgrym ar hyn o bryd fod cerbyd arall ynghlwm wrth y digwyddiad.
Yn ôl yr heddlu, mae’r ymchwiliad yn parhau â chymorth swyddogion arbenigol i’w helpu i ganfod holl ffeithiau ac amgylchiadau’r digwyddiad.