Bydd Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn annerch Cynhadledd Llafur Cymru heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 11).

Dyma’i ail anerchiad cynhadledd ers iddo ddod yn arweinydd, ac fe fydd yn amlinellu blaenoriaethau ei blaid, sef sicrhau’r twf cynaladwy mwyaf o blith gwledydd y G7, gwneud Prydain yn rymus o ran ynni glân, adeiladu Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n addas ar gyfer y dyfodol, gwneud strydoedd Prydain yn ddiogel, a dileu’r rhwystrau sy’n wynebu pobol wrth gael cyfleoedd ar bob cam.

Bydd yn gofyn i bobol “roi eu ffydd yn Llafur a’r newid” maen nhw’n ei gynnig, wrth iddo gyhoeddi ei ddymuniad i sicrhau bod “Cymru’n dychwelyd i gael grym dros ei thynged economaidd”.

Bydd yn darlunio Llafur Cymru fel plaid “falch, hyderus, uchelgeisio a llwyddiannus” gyda chefnogaeth y Blaid Lafur Brydeinig, o fewn “Prydain well sydd â dyfodol addawol”.

Bydd hefyd yn cyhoeddi newid mewn ffrydiau ariannu fydd yn galluogi Cymru i “adennill rheolaeth”.

Mae disgwyl iddo ddweud mai “dim ond Llafur fydd yn datganoli grym economaidd a rheolaeth allan o San Steffan”.

Y sefyllfa yng Nghymru

Bydd Syr Keir Starmer yn dweud y “dylai’r penderfyniadau sy’n creu cyfoeth yn ein cymunedau gael eu gwneud gan bobol sydd â rhan yn y sefyllfa”.

“Cymerwch sgandal yr hyn sydd wedi digwydd yma yng Nghymru gyda’r hyn oedd yn arfer bod yn gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

“Arian sydd wedi bod yn hanfodol i fusnesau a chymunedau Cymreig ers blynyddoedd.

“Grymoedd sydd wedi’u gweithredu yma ers dechrau datganoli.

“Mae’r Torïaid wedi defnyddio proses Brexit i adennill rheolaeth o’r arian hwnnw, nid gan yr Undeb Ewropeaidd ond gan Gymru.

“Wel, dim rhagor.

“Heddiw, gallaf gyhoeddi y bydd y Llywodraeth Lafur nesaf yn dychwelyd grym tros ei thynged economaidd i Gymru.

“Bydd rôl gwneud penderfynidau Llywodraeth Cymru ar gronfeydd strwythurol yn cael ei dychwelyd iddi.

“Mae’n bryd i gymryd adennill rheolaeth.”

Adleisio araith Neil Kinnock

Wrth gyfeirio at “13 mlynedd o fethiannau Llywodraeth Dorïaidd”, bydd Syr Keir Starmer yn adleisio araith Neil Kinnock ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddeugain mlynedd yn ôl, pan rybuddiodd bobol na ddylen nhw “fod yn gyffredin, bod yn ifanc, bod yn sâl, a bod yn hen”.

Bydd yn cyfeirio at yr araith fel un sy’n “adleisio drwy’r oesoedd er mwyn siarad yn uniongyrchol â’r wlad sydd ger ein bron heddiw”.

“Chewch chi ddim ffordd well o ddisgrifio effaith niweidiol y 13 mlynedd diwethaf.

“Y pryder sydd wedi gafael yn ein cymunedau wrth i ni fynd o un argyfwng i’r llall, gan frathu ein synnwyr o obaith, ein cred mewn dyfodol gwell.”

Bydd yn annog ei blaid i “ddefnyddio dyfalbarhad y gall y geiriau hynny ei ysgogi i adeiladu Prydain well”.

“Gwlad decach, wyrddach, fwy deinamig, lle mae pobol leol yn llwyddo, lle caiff dyhead ei wobrwyo, a lle gallwn ni gyda’n gilydd ddatgloi’r balchder a’r pwrpas sydd ym mhob cymuned”.

‘Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, i’r Deyrnas Unedig’

Bydd yn dweud ymhellach ei fod e’n dyheu am fod yn “Brif Weinidog, nid yn unig ar y Deyrnas Unedig ond i’r Deyrnas Unedig”.

“I guro mewn modd cynhwysfawr y lleisiau hynny sydd yn erbyn yr achos tros Byrdain, mae angen gobaith arnom.

“Nid breuddwyd fawr, wtopaidd, y math yna o obaith, ond y math o obaith y gallwch adeiladu eich dyfodol o’i amgylch, yr hyn sy’n gwneud dyheadau.

“Y gobaith sy’n cael ei rannu gan bobol sy’n gweithio ledled y Deyrnas Unedig mewn amseroedd da a drwg.

“Gobaith oedd wedi ymestyn trwy’r cenedlaethau i ddweud: Bydd Prydain yn well i’ch plant.”

Bydd e hefyd yn trafod ei daith bersonol a’i heffaith ar ei ymrwymiad i adeiladu Prydain well.

“Rhaid i ni gael ein synnwyr o obaith a phosibiliadau yn ôl, ac nid dim ond geiriau ydyn nhw i fi.

“Dyna stori fy mywyd.

“Y daith dw i wedi bod arni, o deulu dosbarth gweithiol i fod yn bennaeth ar Wasanaeth Erlyn y Goron.

“Fydda i fyth yn derbyn bod y wlad hon yn dirywio, a bod ein dyddiau gorau yn perthyn i’r gorffennol.

“Mae llwyddiant o’n cwmpas ni – ond mae angen cyfeiriad arno.

“Mae gan bobol uchelgeisiau enfawr i’w cymunedau, ond mae angen ateb hynny arnyn nhw.

“Mae yna ddyhead i ddod ynghyd, i fod yn rhan o rywbeth mwy, ysfa i newid ac ar gyfer adfywiad cenedlaethol.

“Fel maen nhw wedi’i wneud drwy gydol hanes, mae pobol Prydain yn troi tuag at Lafur i’w ddarparu iddyn nhw.”

Gorchwyl

Yn ôl Syr Keir Starmer, mae Llafur eisiau bod yn llywodraeth “uchelgeisiol, awchus sydd wedi’i harwain gan ei gorchwyl”.

“Bydd ein pum gorchwyl yn ailafael yn y gobaith rydym yn ei rannu ym mhob cornel o’r Deyrnas Unedig.

“Byddan nhw’n codi ein gorwelion ac yn ein rhyddhau ni rhag diffyg uchelgais Torïaidd.

“Mae angen arweinyddiaeth arnom sydd ag uchelgais, ysfa i dderbyn yr heriau mawr, a ffydd ym mhosibiliadau’r dyfodol.

“Dyfalbarhad newydd.

“Dyna yw llywodraeth sy’n cael ei harwain gan orchwyl.”

Gweddnewid San Steffan

Byddai Llywodraeth Lafur o dan Syr Keir Starmer yn goruchwylio “gweddnewid system San Steffan sy’n cronni potensial a gwleidyddiaeth sy’n cronni grym”.

Bydd yn dweud ei fod e wedi’i “symbylu gan leisiau ein plant” i weithredu yn erbyn newid hinsawdd.

“Mynd i’r afael â newid hinsawdd yw’r cyfle mwyaf gawson ni ers degawdau i wneud i’r wlad hon weithio ar gyfer pobol sy’n gweithio.

“Mae’n rhaid i ni ddod ynghyd i ysgrifennu pennod newydd yn ein hanes cenedlaethol, ynghylch sut yr aeth ein cenhedlaeth ni i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a’i ddefnyddio i greu swyddi, diwydiannau a chyfleoedd y dyfodol.

“Dyna yw’r Cynllun Ffyniant Gwyrd – twf gwyrdd grymus yn y Deyrnas Unedig, creu swyddi da, diogel sy’n talu’n dda.

“Gadewch i ni ddangos sut fydd busnesau a theuluoedd Cymreig yn cael biliau rhatach – am byth.

“Sut y gall Cymru gael annibyniaeth ynni go iawn gan ormeswyr fel Putin, a sut y gallwn ni roi i bob cymuned – o Fôn i Aberdâr – gyfle teg i gael swyddi a llewyrch y dyfodol.”

Yr etholiad cyffredinol

Yn ôl Syr Keir Starmer, bydd yna “ddewis clir” yn yr etholiad cyffredinol, pryd bynnag y bydd yn cael ei gynnal.

Bydd yn dweud bod y dewis hwnnw rhwng “mwy o ddirywiad a rhaniadau gyda’r Torïaid, neu newid credadwy gyda Llafur”, newid sydd yn golygu “newid i Gymru a’ch cymuned chi”.

“Ond rhaid i bobol Prydain ym mhob man ddangos sut mae’r ysbryd yma’n plethu â’r solidariaeth rydyn ni’n ei chynnig ledled y Deyrnas Unedig.

“Sut y gallwn ni, gyda’n gilydd, gynnig rhywbeth mwy gwerthfawr fyth.

“Prydain sydd, unwaith eto, ar y droed flaen â synnwyr o obaith, posibiliadau ac uchelgais.

“Prydain sy’n adenill ei dyfodol.”