Bydd perchnogion ail gartrefi ar Ynys Môn yn wynebu premiwm treth cyngor o 75%, tra bydd ardoll o 100% ar dai gwag.
Daw hyn wrth i Gyngor Llawn yr ynys gymeradwyo’r cynllun ar gyfer cynnydd o 5% yn nhreth y cyngor, sydd ymhlith yr isaf yng Nghymru.
Fe wnaeth y Cyngor Llawn fabwysiadu’r Gyllideb derfynol o £172.548m yn ffurfiol ddydd Iau, Mawrth 9.
Cafodd y cynlluniau eu hamlinellu yn ystod cyfarfod o’r bwrdd gweithredol ar Fawrth 2.
Mae’n golygu cynnydd cyfartalog o £1.31 ar filiau Band D cyfartalog.
Mae’r bil Treth Gyngor hefyd yn cynnwys presaept Heddlu’r Gogledd a Chyngor Cymuned.
Fe wnaeth y cyfarfod hefyd gefnogi cynigion i gynyddu premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi i 75%, a phremiwm treth y cyngor ar eiddo gwag i 100%.
Fe wnaeth y Cyngor Llawn gymeradwyo’r cynnydd yn nhretnh y cyngor fel rhan o’r cynigion i warchod gwasanaethau rheng flaen dros y deuddeg mis nesaf.
Torri gwasanaethau a defnyddio arian wrth gefn
Mae’r Gyllideb derfynol ar gyfer 2023-24 hefyd yn cynnwys toriadau i wasanaethau gwerth dros £700,000 a defnyddio mwy na £3.7m o arian wrth gefn.
Dywed y Cyngor fod costau ynni cynyddol, chwyddiant, mwy o alw am wasanaethau, codiad cyflog posib i staff sydd wedi’i gytuno’n genedlaethol, a llai o arian o bosib gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd i ddod, i gyd wedi cael eu hystyried wrth baratoi’r fantolen ar gyfer Cyllideb 2023-24.
Daeth y penderfyniad terfynol ar ôl misoedd o drafodaethau.
‘Degawd yn ceisio amddiffyn trigolion a chymunedau’
“Rydym eisoes wedi treulio degawd yn ceisio amddiffyn trigolion a chymunedau lleol yn wynebu toriadau difrifol i arian,” meddai Llinos Medi, arweinydd y Cyngor.
“Rydym yn wynebu heriau ariannol sylweddol yn 2023-24 a 2024-25, gyda’r disgwyl i gostau barhau i gynyddu o ganlyniad i chwyddiant a mwy o alw am wasanaethau.
“Yn anffodus, does fawr o obaith y bydd yr arian rydym yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, drwy law Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ddigon i ofalu am y cynnydd mewn costau.
“Dyma Gyllideb fydd yn ein galluogi ni i warchod gwasanaethau rheng flaen ac ateb y galw cynyddol am Wasanaethau Oedolion a Phlant, ac i osgoi digartrefedd.
“Fel arweinydd y Cyngor, dw i’n arwain ein hymateb i’r argyfwng costau byw, a dw i’n llwyr ymwybodol o effaith y cynnydd mewn chwyddiant, cyfraddau llog a benthyca, a chostau morgeisi ar bobol Ynys Môn, cymunedau, sefydliadau a busnesau.
“Wrth ymateb, bydd y cynnydd hwn o 5% yn sicrhau mai ein bil Treth Gyngor ni fydd yr isaf o hyd yng ngogledd Cymru, ac un o’r rhai isaf ledled Cymru.
“Rydym wedi defnyddio mwy o’n harian wrth gefn er mwyn sicrhau bod y cynnydd yn y Dreth Gyngor yn aros mor isel â phosib.
“Bydd ein Cyllideb hefyd yn parhau i warchod gwasanaethau rheng flaen, sy’n cael eu cyflwyno gan ein staff ymroddedig, i warchod rhai o’r bobol fwyaf bregus yn ein cymunedau.”
Defnyddio arian wrth gefn
Fe wnaeth y Cyngor Llawn gytuno y dylid defnyddio arian o’r gronfa wrth gefn gyffredinol er mwyn ateb codiad cyflog gafodd ei gytuno’n genedlaethol ar gyfer staff y Cyngor yn 2023-24, yn hytrach na gorfod dod o hyd i ragor o arbedion ynni, fyddai’n cael effaith ar wasanaethau, neu godi Treth y Cyngor dros 5%.
Dywed y Cynghorydd Robin Williams, deilydd y portffolio Cyllid, fod llywodraeth leol yn dal i wynebu “heriau ariannol sylweddol”.
“Yn drist iawn, does dim het hud y gallwn ni ei defnyddio i dynnu rhagor o arian allan ohoni,” meddai.
“Dim ond trwy reoli arian mewn modd pwyllog a gofalus y gallwn ni sicrhau Cyllideb gytbwys eleni.
“Gyda’n sefyllfa ariannol ddim yn debygol o wella y flwyddyn nesaf chwaith, rydym yn wynebu heriau hyd yn oed yn fwy.
“Byddwn yn parhau â’n dull o ddefnyddio cymysgedd synhwyrol o arbedion effeithlonrwydd, defnydd gofalus o arian wrth gefn, a chadw cynnydd yn nhreth y cyngor mor isel â phosib.”
Mae’r Cynghorydd Llinos Medi wedi diolch i Bwyllgor Craffu Corfforaethol y Cyngor am eu “mewnbwn gwerthfawrogi” yn y broses bwrpasol hir ar y Gyllideb.