Dim ond Llywodraeth Lafur all achub y Deyrnas Unedig oedd neges Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 11).

Roedd ymhlith prif siaradwyr y gynhadledd, gan achub ar y cyfle i ddweud bod y Deyrnas Unedig “mewn perygl nas gwelwyd o’r blaen” ar ôl 13 mlynedd o lywodraethau Ceidwadol yn San Steffan.

Bydd yn dadlau mai dim ond Llafur all ailadeiladu’r achos tros gynnal y Deyrnas Unedig, gan reoli ar sail solidariaeth, hunanlywodraeth a rhannu llywodraeth.

Dywedodd fod y Deyrnas Unedig wedi cael “13 mlynedd o blaid sydd wedi ffynnu wrth rannu ein gwlad, brifo’r rhai mwyaf bregus, a bwrw’r sefydliadau a’r gwerthoedd sydd wedi ein clymu – bod yn agored, bod yn hael, ac fel grym i hybu beth sydd yn dda yn y byd”.

“Nid trwy amddiffyn y status quo” mae cynnal datganoli yng Nghymru a’r Alban, meddai chwarter canrif ar ôl sefydlu datganoli yn y Deyrnas Unedig ac ar ôl i’r cyn-Brif Weinidog Gordon Brown gyhoeddi ei gynlluniau radical am ragor o ddatganoli.

Mae Mark Drakeford yn cyhuddo’r Llywodraeth Geidwadol o “orfodaeth o du Whitehall” ac o “ganoli grym mewn modd nerfus”.

Dywedodd fod rhaid “adeiladu partneriaeth newydd gydradd yn seiliedig ar barchu’n gilydd”, a bod yn “hyderus wrth ailddosbarthu grym a chyfleoedd – mewn modd radical – i bob cymuned, pob cenedl, pob rhan o’n gwlad”.

‘Beio pawb ond fe ei hun’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r araith, gan ddweud bod Mark Drakeford yn “beio pawb ond fe ei hun”.

“25 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, ond mae Mark Drakeford yn parhau i feio San Steffan am y trychinebau mae ei lywodraeth yng Nghymru wedi’u gwneud,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y blaid.

“Fydd bod yn fwy radical ddim yn trwsio problemau megis ein hisadeiledd ffyrdd gwael, ac mae ideoleg radical Llafur mewn gwirionedd yn eu gwneud nhw’n waeth.

“Yng Nghymru, does dim awydd mawr am ragor o ddatganoli a photsian cyfansoddiadol parhaus; yn syml iawn dyma brosiect y swigen ym Mae Caerdydd.

“Yn hytrach na cheisio tawelu’r cenedlaetholwyr, dylai Mark Drakeford fod yn canolbwynio ar drwsio’r amserau aros hiraf ym Mhrydain.”