Mae Ben Lake, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, wedi amlinellu cynllun pum pwynt ei blaid ar drothwy Cyllideb Canghellor San Steffan ddydd Mercher (Mawrth 15).

Mae’n annog Jeremy Hunt i fabwysiadu cynigion “realistig, ymarferol a theg” ei blaid.

Hon fydd Cyllideb lawn gynta’r Canghellor, ac mae disgwyl cyfres o gamau i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.

Mae Plaid Cymru’n dweud y bydden nhw’n blaenoriaethu cyflogau’r sector cyhoeddus, ymestyn cefnogaeth a gwella effeithlonrwydd ynni, rhyddhau arian sy’n ddyledus i Gymru, lleihau tlodi drwy fuddsoddi yn y System Nawdd Cymdeithasol, gwella cysylltedd digidol ac ariannu prosiectau ymchwil.

O ystyried bod 61% o oedolion Cymru’n dweud bod eu sefyllfa ariannol bresennol yn niweidio’u hiechyd meddwl, o gymharu â 48% yn yr Alban a 47% yn Lloegr, mae’r argyfwng costau byw “ymhell o fod ar ben”, yn ôl Ben Lake.

‘Mwy o arian ym mhocedi pobol gyffredin’

Dywed Aelod Seneddol Ceredigion y byddai cynllun pum pwynt ei blaid “yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobol gyffredin” ac yn “rhoi gobaith gwirioneddol” i gymunedau mewn sefyllfa economaidd ariannol.

“Gyda 61% o bobol yng Nghymru’n adrodd bod eu hiechyd meddwl yn cael ei effeithio’n negyddol gan eu sefyllfa ariannol, mae’n amlwg fod yr argyfwng costau byw ymhell o fod drosodd,” meddai Ben Lake.

“Wrth i bobol wynebu rhagor o gyni, rhaid mai blaenoriaeth y Canghellor yw rhoi mwy o arian ym mhocedi pobol gyffredin.

“Dyna pam dw i’n annog y Canghellor i fabwysiadu cynllun pum pwynt realistig, ymarferol a theg Plaid Cymru.

“Does dim esgus am fethu â chynyddu cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus, o leiaf yn unol â chwyddiant y flwyddyn nesaf.

“Heb ein gweithwyr sector cyhoeddus, mae ein gwead cymdeithasol yn chwalu.

“Mae’n annerbyniol yng Nghymru fod pedwar ym mhob deg o bobol yn mynd heb wres yn eu cartrefi, a bod disgwyl i filiau ynni godi’n uwch eto.

“Dylai’r Canghellor ddefnyddio’i warged yng Nghyllideb Ionawr i ymestyn y gefnogaeth, yn ogystal â chyflwyno’r £6bn sydd wedi’u ymrwymo ar gyfer effeithlonrwydd ynni er mwyn torri biliau ynni’n barhaol.

“Rhaid hefyd i’r Canghellor ryddhau’r £1bn sy’n ddyledus i Gymru o’r arian sydd wedi’i wario ar y prosiect Seisnig HS2.

“Mae Cymru’n haeddu ein cyfran deg o gyfanswm cost HS2, allai arwain at £5bn trawsnewidiol yn ystod hyd oes y prosiect.

“Mae gwerth budd-daliadau wedi cael eu gyrru i lawr gan chwyddiant.

“Rhaid i ni ddechrau gweld y System Nawdd Cymdeithasol fel arf i godi pobol allan o dlodi, ac nid fel baich, a chydnabod fod tlodi yn ei hun yn costio biliynau i’n gwasanaethau cyhoeddus.

“Yn olaf, rhaid i gysylltedd digidol fod yn flaenoriaeth i’r Canghellor.

“Mewn rhannau helaeth o Gymru, mae cysylltedd gigabit yn erchyll, sy’n tarfu ar allu busnesau a gweithwyr i weithredu’n effeithiol.

“Gallai rhyddhau’r £5bn sydd wedi’i ddyrannu i’r Prosiect Gigabit helpu i ddatgloi potensial economaidd enfawr i Gymru.

“Efallai bod Datganiad Gwanwyn ynghyd â rhagolygon OBR yn teimlo fel pe bai San Steffan yn ôl i’r un hen drefn, ond mae biliau ynni uchel, prisiau bwyd uwch a chwalu gwasanaethau cyhoeddus yn golygu na fydd ‘yr un hen drefn’ yn ddigonol.

“Rhaid i’r Canghellor ddefnyddio’r cyfle ddydd Mercher i gynnig gobaith gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru.”