Mae nifer y bobol rhwng 18 a 25 oed sy’n dysgu Cymraeg gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi dyblu eleni o gymharu â llynedd, meddai Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan.
Wrth siarad â Mewnolwg, sef podlediad newydd golwg360, dywedodd Helen Prosser nad ydyn nhw’n gallu datgelu’r data swyddogol eto.
Fodd bynnag, ychwanegodd ei bod hi’n rhydd i ddweud bod y ffigurau wedi dyblu ar gyfer y grŵp oedran hwnnw.
Ers mis Medi 2022, mae gwersi Cymraeg ar gael am ddim gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i unrhyw un rhwng 18 a 25 oed, ynghyd â staff addysgu.
‘Newid am byth’
Ar y podlediad, Helen Prosser a’r Athro Enlli Thomas o Adran Addysg Prifysgol Bangor sy’n trafod effaith y pandemig ar y Gymraeg gan edrych yn ôl ar y tair blynedd ers i’r cyfnod clo cyntaf ddod i rym.
Gyda’r Cyfrifiad diweddaraf yn dangos cwymp yn nifer siaradwyr Cymraeg, yn enwedig ymysg y grŵp oedran 5 i 15 lle bu gostyngiad o tua 6% rhwng 2011 a 2021, ystyrir sut effaith gafodd y cyfnodau clo ar ddefnydd disgyblion o’r Gymraeg, sut gafodd mudiadau eu heffeithio, a’r cynnydd syfrdanol yn nifer y dysgwyr Cymraeg.
Rhwng 2018-19 a 2019-20, bu cynnydd o 32% yn nifer y dysgwyr Cymraeg, ac yn ôl Helen Prosser daeth “cyfuniad o ffactorau” ynghyd i ddylanwadu ar y newid hwnnw.
“Mae’r sector dysgu Cymraeg i oedolion wedi newid am byth,” meddai Helen Prosser.
“Cyn Covid, roedd siŵr o fod 95% a mwy o’r gwersi’n digwydd wyneb yn wyneb, ac yn llythrennol dw i’n meddwl i ni achub ein sector drwy drosi dros nos i gynnig gwersi rhithiol.
“Fe gollon ni bobol hefyd, pobol doedd methu ymdopi â’r dechnoleg, fe gollon ni nifer nid ansylweddol o diwtoriaid – efallai pobol oedd yn tynnu tuag at ddiwedd eu gyrfa ond wedi penderfynu gorffen nawr yn lle ymhen tair neu bum mlynedd.
“Ond fe ddaeth yna don anferthol o bobol newydd.
“Roedd y 32% yna’n cynnwys pobol tu allan i Gymru am y tro cyntaf go iawn, pobol oedd efallai wedi bod yn aros ers blynyddoedd am y cyfle yma i ddysgu Cymraeg.”
‘Pobol mor allweddol’
Er bod nifer y dysgwyr wedi bod ar eu huchaf yn 2019-20, 17,505 ohonyn nhw, a bod gostyngiad yn 2020-21, mae’r cynnydd diweddar ymysg pobol ifanc yn arwyddocaol hefyd.
“Rhywbeth arall sydd wedi digwydd ers Covid ydy bod Llywodraeth [Cymru] wedi cyhoeddi bod gwersi am ddim i bobol ifanc rhwng 18 a 25… wel, dyma ein cenhedlaeth ddigidol ni,” meddai Helen Prosser.
“Dydyn ni ddim yn gallu datgelu data ar gyfer y flwyddyn sydd gyda ni achos dyw e ddim wedi cael ei archwilio, ond mae pob rhyddid gyda fi i ddweud bod y ffigurau wedi dyblu i be sydd gyda ni llynedd o ran pobol yn y categori oedran yna.
“Pobol mor allweddol i ddyfodol y Gymraeg, pobol sydd gobeithio’n dysgu Cymraeg cyn cael eu plant nhw fel bod y dewis gyda nhw i fagu’u plant yn y Gymraeg nid dysgu efallai ar ôl iddyn nhw fynd i’r ysgol.
“Eleni, dw i hefyd eisiau gweld dosbarthiadau wyneb yn wyneb i’r grŵp oedran yma achos os oes yna bobol sydd angen cymdeithasu dw i’n credu taw pobol ifanc yw hynny.”
- Mae podlediad Mewnolwg wedi’i ryddhau heddiw (Mawrth 13), a gallwch wrando isod ac ar yr holl blatfformau arferol.