Bydd yn rhaid i berchnogion eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yng Nghaerdydd ddechrau talu mwy o dreth gyngor.

Mae Cyngor Caerdydd wedi pleidleisio dros gynyddu’r premiwm ar dreth y cyngor ar eiddo gwag hirdymor, o 50% i 100%.

Bydd premiwm newydd o 100% ar ail gartrefi ac eiddo â dodrefn nad ydyn nhw’n brif gartref.

Wrth siarad yng nghyfarfod y Cyngor ddydd Iau (Mawrth 9), cytunodd y Cynghorydd Calum Davies fod rhaid gweithredu ar gartrefi gwag pan nad yw perchnogion yn cydweithredu, ond ychwanegodd nad yw’r premiwm yn cydnabod y cyd-destun ym mhob achos.

“Bydd yna nifer o bobol allan yna sydd yn ariannol analluog,” meddai.

“Bydd rhai eiddo ynghlwm wrth brofiant.

“Bydd eraill ar y farchnad, gweithred sy’n annog cartrefi gwag os nad yw’r perchennog neu os na all wneud unrhyw beth ar ei gyfer, ond fod y gwerthiant yn cwympo drwodd.”

Argyfwng tai

Mae mater tai gwag yng Nghaerdydd yn cyfrannu at argyfwng tai’r ddinas.

Yn hwyr y llynedd, roedd adroddiadau bod mwy nag 8,200 o bobol ar restr aros Cyngor Caerdydd am dai.

Mae’r ffigurau mewn adroddiad gan y Cyngor yn dangos bod 1,232 eiddo’n wag am fwy na chwe mis.

Dywed y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, fod y premiwm cartrefi gwag “yn ymwneud o hyd â dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd”.

“Dw i’n derbyn y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud gan yr wrthblaid ei bod yn gymhleth,” meddai.

“Mae ein swyddogion yn sensitif iawn i berchnogion sy’n wynebu anawsterau am resymau go iawn.

“Rydyn ni’n cydweithio â nhw, a dydyn ni ddim yn codi premiwm ar y rheiny.

“Mae nifer o’r cartrefi hynny’n ansylweddol.

“Nid yn unig maen nhw’n wag, ond maen nhw hefyd yn staen ar gymunedau.”

Mwy o gynnydd

Galwodd y Democratiaid Rhyddfrydol am gynnydd uwch ar y premiwm na’r hyn oedd yn cael ei gynnig.

“Y rheswm rydyn ni’n gwneud hyn yw, pan fyddwch chi’n cyflwyno newid fel hyn, mae angen i chi weld beth fydd yr effaith ar gyfraddau casglu, beth fydd yr effaith ar unrhyw eithriadau a newidiadau mewn dosbarth a defnydd dros gyfnod o amser,” meddai’r Cynghorydd Chris Weaver am gynyddu’r premiwm i 100% yr un.

“Dydych chi ddim eisiau gorymestyn eich hun, ac mae angen i chi weld yr effaith ddaw yn sgil hyn.”

Bydd y premiwm uwch ar dai gwag yn dod i rym ar Ebrill 1 eleni.

Ond fydd y premiwm ar ail gartrefi ddim yn dod i rym tan Ebrill 1 y flwyddyn nesaf.