Mae’r camau sydd wedi’u cymryd gan Wcráin i gosbi cangen o’r Eglwys Uniongred sydd â chysylltiadau â Rwsia yn rhan o ymgyrch i geisio “annibyniaeth ysbrydol”, yn ôl yr Arlywydd Volodymyr Zelenskyy.

Mae Zelenskyy ac arweinwyr eraill wedi cyhuddo’r Eglwys Uniongred yn Wcráin o danseilio undod y wlad ac o gydweithio â Rwsia.

Fe wnaeth yr awdurdodau orchymyn yr eglwys ddiwedd yr wythnos i adael eu cartref ym mynachdy Pechersk Lavra, sy’n 980 mlwydd oed, ac mae arweinwyr yr eglwys wedi gofyn i’r Pab Ffransis ac arweinwyr crefyddol eraill i gamu i mewn i geisio atal y cam.

“Cafodd un cam eto tuag at gryfhau ein hannibyniaeth ysbrydol ei gymryd yr wythnos hon,” meddai arlywydd Wcráin yn ei fideo dyddiol, heb gyfeirio’n uniongyrchol at y gorchymyn.”

Dywed fod trigolion y wlad wedi ymateb yn bositif ac y bydd y “mudiad yn parhau” i sicrhau nad yw gwlad arall yn difetha “annibyniaeth ysbrydol” y genedl.

Mae gwasanaeth diogelwch Wcráin wedi bod yn cynnal cyrchoedd ar yr Eglwys Uniongred ers mis Hydref, wedi cosbi esgobion ac arianwyr, ac wedi dechrau camau cyfreithiol yn erbyn dwsinau o offeiriaid.

Mae’r Eglwys yn eu cyhuddo o’u targedu.

Yr Eglwys Uniongred yw’r fwyaf yn Wcráin, ac mae’r Eglwys Rwsiaidd wedi bod yn cystadlu am addolwyr ar ôl sefydlu Eglwys Uniongred arall yn dilyn cwymp yr Undeb Sofietaidd yn 1991 – Eglwys oedd heb gydnabyddiaeth swyddogol tan 2018.

Mae’r Eglwys annibynnol wedi bod yn tyfu ers ymosodiadau Rwsia ar Wcráin.

Dywed Llywodraeth Wcráin fod gan yr Eglwys tan Fawrth 29 i adael mynachdy Pechersk Lavra.