Daeth cadarnhad heddiw (dydd Llun, Mawrth 13) fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer y fferm wynt arnofiol gyntaf yng Nghymru, ar arfordir Sir Benfro.

Bydd prosiect Erebus yn gosod eu gwaith 40km oddi ar arfordir Sir Benfro, gyda saith tyrbin 14 megawat ar blatfformau sy’n arnofio.

Bydd hyn yn darparu digon o ynni carbon isel ar gyfer 93,000 o gartrefi.

Mae Erebus yn rhan o gam cyntaf datblygiad ynni adnewyddadwy pedwar gigawat yn y Môr Celtaidd – digon i ddarparu pŵer ar gyfer pedair miliwn o gartrefi.

Y disgwyl ar hyn o bryd yw y bydd Blue Gem Wind, menter ar y cyd rhwng TotalEnergies a Simply Blue Group, yn dechrau gweithredu prosiect Erebus yn 2026, ond maen nhw nawr yn gobeithio sicrhau cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

‘Dod â swyddi ac ynni gwyrdd i’n cymunedau’

“Mae gennym ni obeithion mawr ar gyfer y sector ynni ar y môr – rydyn ni’n credu bod ganddo’r potensial i ddarparu ffynonellau ynni cynaliadwy yn y dyfodol, ac mae hefyd yn gyfle nad yw’n codi ond unwaith mewn cenhedlaeth i agor marchnadoedd newydd ar gyfer cyflenwyr lleol, ac i greu miloedd o swyddi o ansawdd uchel yng Nghymru,” meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

“Mae gan brosiect Erebus y potensial i ddangos i’r byd y gall Cymru a’r Môr Celtaidd gynhyrchu ynni adnewyddadwy, ar yr un pryd â rheoli ein hadnoddau morol mewn modd cynaliadwy.

“Drwy roi’r trwyddedau morol a’r caniatadau cynllunio, mae Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yn Cyfoeth Naturiol Cymru wedi galluogi’r prosiect hwn i symud yn ei flaen a gwneud cais am gymorthdaliadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Rwy’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i chwarae ei rhan drwy’r broses Contractau ar gyfer Gwahaniaeth i roi hwb i’r diwydiant, drwy weithio gyda thîm Erebus i sicrhau llwyddiant y prosiect fferm wynt arnofiol gyntaf yn nyfroedd Cymru, gan ddod â swyddi ac ynni gwyrdd i’n cymunedau.”

Rôl ‘hanfodol’ wrth greu ynni carbon isel

“Rydyn ni’n croesawu penderfyniad gweinidogion Cymru i roi’r caniatadau cynllunio sydd eu hangen ar brosiect Erebus, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill ers 2019 i ddatblygu prosiect sy’n parchu’r amgylchedd naturiol ac yn lleihau’r effeithiau ar gymunedau lleol a rhanddeiliaid cymaint ag y bo modd,” meddai Mike Scott, Rheolwr Gyfarwyddwr prosiect Blue Gem Wind.

“Erebus fydd y fferm wynt arnofiol gyntaf yng Nghymru, a bydd yn chwarae rôl hanfodol wrth gynyddu’r defnydd o’r dechnoleg carbon isel sy’n mynd i fod yn bwysig ar lefel fyd-eang.”