Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gwersi Cymraeg am ddim ar gael i unrhyw un rhwng 16 ac 25 oed, yn ogystal â holl staff addysg Cymru.
O fis Medi, bydd pobol ifanc 18 i 25 oed yn gallu cofrestru’n rhad ac am ddim ar gyrsiau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Bydd dysgwyr yn gallu cael mynediad at gyrsiau wedi’u teilwra i’w gallu eu hunain yn y Gymraeg, o gyrsiau blasu a chyrsiau mynediad hyd at lefelau uwch, ac mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau hynny’n cael eu cynnal ar-lein er bod cyrsiau wyneb yn wyneb ar gael hefyd.
Fe fydd adnodd e-ddysgu newydd hefyd yn cael ei dreialu ar gyfer pobol 16 i 18 oed sydd wedi cofrestru mewn ysgol, coleg neu gynllun prentisiaeth, er mwyn gwella eu sgiliau Cymraeg llafar.
Bydd Say Something in Welsh a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn darparu’r adnodd o fis Medi.
Fe fydd pob athro, pennaeth a chynorthwyydd dysgu hefyd yn gallu cael gwersi Cymraeg am ddim fel rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i gryfhau addysgu’r Gymraeg yn y cwricwlwm newydd a chynyddu nifer y staff sy’n gallu dysgu drwy’r Gymraeg.
Fe wnaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol lansio cwrs blasu ar-lein i athrawon ac arweinwyr ym mis Chwefror 2020, ac fe wnaeth tua 2,800 o bobol gofrestru ar ei gyfer.
Bydd y Cynllun Sabothol ar gyfer staff ysgolion ar gael hefyd, yn ogystal â phorth digidol newydd fydd wedi cael ei ddatblygu erbyn yr haf i gefnogi’r gweithlu addysg i ddewis y cwrs sy’n gweddu eu hanghenion orau.
‘Cynyddu cyfleoedd’
Dywed Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, ei fod eisiau i bawb gael y cyfle i ddysgu Cymraeg.
“Nid pawb sy’n cael cyfle i ddysgu Cymraeg yn blentyn ifanc ac mae llawer ohonom yn penderfynu ar ôl i ni adael yr ysgol yr hoffem siarad Cymraeg yn amlach,” meddai.
“Mae’n bwysig ein bod yn cynyddu’r cyfleoedd i ddysgu ein hiaith fel y gall mwy o bobol ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
“Efallai y bydd llawer o oedolion ifanc yn penderfynu eu bod am ddechrau dysgu Cymraeg, adeiladu ar eu gallu presennol neu ddim ond cynyddu eu hyder fel y gallant ddefnyddio mwy ar y Gymraeg, boed yn y gweithle, gyda ffrindiau neu wrth fyw eu bywydau o ddydd i ddydd yn eu cymuned leol.
“Rydym hefyd yn dymuno cynyddu nifer y dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.
“O ganlyniad, mae angen cynyddol am fwy o addysgwyr Cymraeg eu hiaith, felly rydw i am ei gwneud mor hawdd â phosibl iddynt gael mynediad at gyrsiau Cymraeg am ddim.
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Dyma gam arall tuag at roi cyfle i bawb siarad Cymraeg a’n helpu i gyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”
‘Dileu rhwystr arall’
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwersi Cymraeg am ddim i bawb rhwng 16 a 25 oed fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru.
Dywed Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru ar gyfer y Cytundeb, y dylai “pawb yn ein gwlad fod â’r hawl i ddysgu, i weithio, ac i fyw eu bywydau yn y Gymraeg” a bod yr iaith yn perthyn i bawb.
“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam arall ymlaen wrth inni gynllunio ar gyfer miliwn, a mwy, o siaradwyr Cymraeg,” meddai.
“Drwy gynnig gwersi Cymraeg yn rhad ac am ddim i bob person rhwng 16 a 25 oed, rydyn ni’n dileu rhwystr arall rhag cael mynediad at yr iaith, a’r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny.
“Mae darparu mynediad rhwydd at wersi yn rhad ac am ddim yn gyfraniad bach ond hanfodol yn ein hymdrechion i ehangu dinasyddiaeth Gymraeg i bawb.
“Rwy’n gobeithio y bydd llawer iawn o bobl yn elwa ar y polisi newydd hwn a luniwyd yn yr ysbryd cydweithredol Cymreig. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth.”
‘Angen gwersi Cymraeg am ddim i bawb’
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r cyhoeddiad, gan ddweud y bydd cael gweithlu addysg sy’n gallu siarad Cymraeg yn “hanfodol i ddatblygu a sicrhau addysg Gymraeg i bawb yn y dyfodol”, ac mae angen sicrhau bod yr holl staff yn gallu manteisio ar y cynnig.
Serch hynny, mae angen gwneud mwy, meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.
“Ond mae angen mynd ymhellach a symud ynghynt, yn cynnwys ymestyn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon hyd at flwyddyn i sicrhau bod pob darpar athro yn gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, buddsoddiad sylweddol mewn hyfforddiant y gweithlu dros y blynyddoedd nesaf a thargedau statudol yn y Ddeddf Addysg Gymraeg newydd o ran recriwtio a hyfforddi’r gweithlu sydd ei angen,” meddai Toni Schiavone.
“Rydyn ni’n gwybod bod nifer fawr o bobl eisiau dysgu Cymraeg, ond yn profi rhwystrau wrth geisio gwneud hynny – boed rheiny’n rhwystrau ariannol, daearyddol neu ddyletswyddau gofal.
“Dyna pam rydyn ni wedi galw am wersi Cymraeg am ddim i bawb fel rhan o’n hagenda ‘Mwy na Miliwn – Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’.
“Galwn felly ar y Llywodraeth i ehangu’r cynnig er mwyn i bawb yng Nghymru gael gwersi Cymraeg am ddim.
“Mae’n wir bod y Gymraeg yn perthyn i bawb ac mae angen gwireddu hynny trwy sicrhau bod pawb, o bob cefndir, yn gallu ei dysgu, defnyddio a mwynhau yn eu bywydau bob dydd.”