Heddiw, mewn gwesty ym Mae Caerdydd, mi fydd Plaid Cymru yn cyhoeddi enw eu harweinydd newydd.

A gan mai Rhun ap Iorwerth yw’r unig un yn y ras, mae yn hollol amlwg mae efe fydd yn olynu Adam Price.

Ar drothwy’r cyhoeddi, dyma geiniogwerth Jason Morgan…

Hawdd yw teimlo’n rhwystredig efo gwleidyddiaeth yng Nghymru, ac enwedig felly gydag ein gwleidyddiaeth genedlaetholgar. Jyst pan fo chi’n meddwl bod pethau’n sefydlogi, mae rhywun yn rhywle’n gorfod sbwylio popeth drwy sbeit.

Y mae’n amlwg erbyn hyn mai Rhun ap Iorwerth fydd arweinydd nesaf Plaid Cymru, yn bennaf achos bod pawb arall wedi tynnu allan. Fentra i ddweud mai Rhun, yn wir, yw’r un all ddechrau unioni pethau – dyna oedd fy marn hefyd yn ystod y ras arweinyddol ddiwethaf yn 2018 a does dim wedi newid fy safbwynt ers hynny. Fo oedd wastad y person ddylai fod wedi arwain y Blaid dros y blynyddoedd diwethaf. Gwell hwyr na hwyrach, am wn i.

Ymhlith y rhai i dynnu allan ers sbel oedd Delyth Jewell, a ddylai’n ddi-os fod yn Ddirprwy Arweinydd; Elin Jones, y Llywydd profiadol, a Heledd Fychan. Waeth beth mae’r dyfodol yn ei ddal, teimlai pob un nad dyma oedd eu hamser nhw, a hynny yn gywir, dwi’n amau. Go brin y byddai unrhyw un ar hyn o bryd yn llwyddo i drechu Rhun ap Iorwerth ymhlith yr aelodau. Roedd pawb wedi’i deall hi. Mae angen trosglwyddiad llyfn, didrafferth ac annadleuol. Hon ydi’r dacteg gywir.

Leanne, Sioned a Siân

Dywedodd Leanne Wood, y cyn-arweinydd a wrthodwyd gan ei phlaid a’i hetholaeth, mai dynes ddylai fod yn arweinydd nesaf Plaid Cymru. Digon teg, mae genod mewn grym yn beth da. Ond yna rhyddhaodd Siân Gwenllïan a Sioned Williams ddatganiad ar y cyd yn dweud union yr un fath – cyn ychwanegu na fyddan nhw’n sefyll. Cofiwch, roedd hyn ar ôl i dair merch arall Plaid Cymru yn y Senedd ddweud nad oedden nhw eisiau arwain. Felly, pwy oedd gan Siân a Sioned mewn golwg?

Wel, neb ydi’r ateb, wrth gwrs. Am ffordd ddiangen i gorddi cyn i’r arweinydd newydd hyd yn oed ddod i rym. Doedd a wnelo’r peth ddim â chael y person cywir, roedd hi’n ymdrech fwriadol i geisio tanseilio’r arweinyddiaeth newydd. Dydi Sioned Williams heb fod yn y Senedd ers digon hir i wirioneddol fod yn arweinydd. O ran Siân Gwenllïan, roedd hi’n agos tu hwnt at Adam Price yn ystod y llanast a grëwyd. Dydw i ddim yn meddwl mai’r ffordd i ddatrys problemau’r Blaid ydi dewis merch i arwain, jyst achos ei bod hi’n ferch. Mae’r syniad bod nymbar tŵ Price heb unrhyw glem am y problemau yn y Blaid yn gwbl, gwbl anghrediniol.

Anodd gwybod beth oedd pwynt Leanne, Siân a Sioned wrth alw am ferch i arwain, gan wybod bod hynny ddim am ddigwydd, y tu hwnt i achosi anghydfod at y dyfodol. Ond fydd yna ddim dyfodol i Blaid Cymru o gwbl drwy chwarae gemau twp – i’r hogia na’r genod ill dau.