Mae gan y digrifwr Carwyn Blainey rwtîn bach lle mae’n gwneud hwyl am ein harfer ni’r Cymry o ymestyn y ffarwelio ar ddiwedd pob galwad ffôn… hwyl, ta-ta, dyna ni te, ie, ta-ta, gwd nawr…

Mi allai addasu’r darn bellach i Boris Johnson, gan obeithio, y tro yma, mai dyma’r ffarwél terfynol. Mae yna arwyddion fod hyd yn oed mwyafrif ASau’r Ceidwadwyr wedi cael llond bol ar y nonsens.