Dathliad Cymru Affrica 2023. Dau benwythnos o weithgareddau. Un ym Methesda a’r llall yng Nghaerdydd. A dyna chi braf, cael ymlwybro draw i Neuadd Ogwen i fwynhau gwledd o gerddoriaeth. Braf hefyd oedd peidio bod yn ‘gweithio’, felly doedd dim byd yn pwyso, dim byd i darfu ar yr heddwch – dim agenda ond gwrando a mwynhau.