Dw i wedi canmol S4C yn y gorffennol am bwyllo, aros a gwneud joban iawn ohoni gyda rhaglen deyrnged. Does yna ddim byd gwaeth, pan fydd rhywun adnabyddus yn marw, na gweld rhaglen wedi cael ei thaflu at ei gilydd yn frysiog gyda chymysgedd blêr o glipiau o raglenni eraill. Neu’n waeth byth, rhaglen wedi ei chreu’n unswydd cyn hynny, yn barod i fynd unwaith mae’r newyddion trist yn cyrraedd. Mae Channel 5 yn arbenigo yn y grefft ac mae rhywbeth reit anghynnes am yr holl beth.
gan
Gwilym Dwyfor