Am y tro cynta’, fwy neu lai, meddai Ben Wildsmith, mae Boris Johnson wedi gwneud penderfyniad cywir. Ond mae’n cynnig rhybudd hefyd…
“Mae Trump a Johnson yn cynnig patrwm ar gyfer gwleidyddiaeth mewn faciwm moesol. O’i alltudio, fe fydd y cyn-Brif Weinidog yn colli’r angen i esgus am gyfrifoldeb sifig ac felly yn rhydd i daflu bomiau i’r maes cyhoeddus a thorheulo yn eu canlyniadau ymfflamychol.” (nation.cymru)
Mae rhybudd Mike Small yn yr Alban yn ddwysach, yn sôn am yr hyn y mae’n ei weld o dan y sioe i gyd…
“Dyw ymadawiad Johnson ddim yn teimlo fel buddugoliaeth na diwedd, na chyfiawnhad; mae’n teimlo fel drama arall i dynnu ein sylw oddi ar y bobol yma sydd yn ein rheoli a pharhad byw mewn gwladwriaeth Brydeinig sy’n allforio trais gwladwriaethol a, gartref, yn cynnal lefelau anhygoel o anghyfartaledd. A dyma ni. Dyma’r hyn sy’n cael ei werthu inni. Dim ond oherwydd y gwagle mewn bywyd cyhoeddus y mae bwlch cymdeithasol cyfoeth a thlodi ym Mhrydain yn bosibl. Mae’n wagle moesol… ond hefyd yn cynnwys diffyg dewisiadau credadwy amgen.” (bellacaledonia.org.uk)
A mynd â hynny ymhellach yr oedd Martin Shipton ar nation.cymru. Yn sgil methiant Beth Winter i gael ei dewis yn ymgeisydd yn ardal Merthyr a Chwm Cynon ac wrth weld Jamie Driscoll, Maer Gogledd Tyne, yn cael ei eithrio, mae’n anobeithio wrth weld awydd arweinwyr y Blaid Lafur i reoli popeth a thewi pob llais sy’n eu herio…
“Yn Starmer, mae selotiaid asgell dde’r Blaid Lafur wedi dod o hyd i wleidydd sy’n gyfleus o ddibrofiad ac y mae modd dylanwadu arno i ganiatáu iddyn nhw newid agenda polisi’r blaid heb drafodaeth, gan gael gwared ar y rhai sy’n meiddio anghytuno. Rhaid i ni sylweddoli nad mater tecnocrataidd o ddiddordeb i Lafurwyr selog ac anoraciaid gwleidyddol eraill yw gweithredu strategaeth o’r fath. Y gwir yw ei bod yn tanseilio’r egwyddorion democrataidd a ddylai fod yn sylfaen gwaelodol i unrhyw blaid flaengar sy’n ceisio grym… Dyw’r ysfa reoli ganolog, obsesiynol yma ddim yn addawol o ran datganoli rhagor o rymoedd i Gymru, er enghraifft ym maes yr heddlu a’r system gyfiawnder. Gyda Driscoll a Winter wedi’u dileu, pwy all ddweud na fydd Starmer eisiau ymyrryd yn y dewis o ymgeiswyr Llafur ar gyfer etholiad nesa’r Senedd yn 2026?” (nation.cymru)
Fel y bydd yn gwneud reit aml, rhoi perspectif hanesyddol ychydig yn wahanol ar ddigwyddiadau cyfoes y mae Dafydd Glyn Jones. Mae’n gweld eironi wrth weld yr holl gondemnio ar chwalu’r argae yn yr Wcráin…
“Pwy biau’r ‘Glorious Dambusters’ y tro hwn? ‘Nhw, nid ni,’ meddai Rwsia ac Wcráin fel ei gilydd. ‘Hoff ffilm ryfel’ pa genedl fydd hi, pan wneir y ffilm?”