Cynefin a mamiaith – dyna sy’n ysbrydoli cerddi bardd o Gaergybi sy’n dweud ei bod yn well canolbwyntio ar faterion lleol wrth geisio gofalu am y blaned…
Mae’r bardd Ness Owen, sy’n byw ar lannau afon Cymyran i’r de o Gaergybi ym Môn, newydd ennill un o brif wobrau cystadleuaeth Greenpeace, ‘Poems for the Planet’ gyda’i cherdd rymus ‘And then the geese turned up’.