Bydd hi’n bosib i fyfyrwyr gyfuno eu huchelgeisiau academaidd â rygbi, yn dilyn sefydlu partneriaeth newydd.

Mae’r bartneriaeth strategol newydd wedi’i chreu rhwng Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Coleg Llanymddyfri a Chlwb Rygbi Llanymddyfri i ddarparu llwybr ar gyfer Addysg Bellach, Uwch a rygbi lled-broffesiynol.

Bwriad pob un o’r tri sefydliad yw cefnogi myfyrwyr sy’n ymwneud â rygbi perfformiad uchel wrth iddyn nhw astudio.

Bydd y bartneriaeth yn rhoi mynediad i fyfyrwyr at hyfforddiant rygbi ar lefel broffesiynol a hyfforddiant cryfder a chyflyru, yn ogystal â chyngor ar faeth, deiet a ffordd o fyw.

Bydd gan y myfyrwyr amrywiaeth o opsiynau academaidd, yn ogystal â chael chwarae yng Nghynghrair Colegau/Ysgolion Dan 18 Undeb Rygbi Cymru tra byddan nhw yng Ngholeg Llanymddyfri.

Pan fyddan nhw’n symud ymlaen i’r Drindod Dewi Sant ar gyfer eu Haddysg Uwch, byddan nhw’n chwarae yn strwythur Cynghrair / Cwpan Undeb Rygbi BUCS.

Ochr yn ochr â hyn, byddan nhw’n cael eu cefnogi gan Glwb Rygbi Llanymddyfri, sydd â llwybrau i’w dimau ar lefel Dan 18 a’r tîm lled-broffesiynol.

‘Croesawu’r cyfleoedd’

“Rydym wastad yn ceisio gwella’r cysylltiadau rhwng addysg bellach ac uwch i greu llwybrau unigryw fel hwn ar gyfer rhagoriaeth academaidd a pherfformiad uchel mewn rygbi a fydd o fudd i’n dysgwyr,” meddai Lee Tregoning, pennaeth Academi Chwaraeon Y Drindod Dewi Sant.

“Rydym yn croesawu’r cyfleoedd mae hyn yn ei greu ar gyfer mwy o aliniad rhwng y tri sefydliad.

“Ein nod yw datblygu a gwella ein partneriaeth ac i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd addysg bellach, uwch a rygbi lled-broffesiynol i’n dysgwyr yn y byd academaidd a rygbi.”

Ychwanega Gareth Potter, pennaeth rygbi yn Y Drindod Dewi Sant, y “bydd y gwasanaethau a ddarperir gan bob parti yn rhoi llwybr pum mlynedd i fyfyriwr nodweddiadol lle gall hyfforddi a chwarae ar y lefel uchaf mewn chwaraeon coleg, prifysgol a rygbi lled-broffesiynol wrth gyflawni ei nodau academaidd ar yr un pryd.”

‘Talent ifanc Cymru yw’r dyfodol’

“Rydym yn falch iawn o fod yn ymuno â Chlwb Rygbi Llanymddyfri a’r Drindod Dewi Sant mewn partneriaeth gyffrous iawn sy’n rhoi cyfle i’n chwaraewyr Rygbi ifanc talentog ac uchelgeisiol hyfforddi a chwarae i dîm blaenllaw yn Uwch Gynghrair Cymru wrth gyfuno eu cyrsiau addysg Bellach,” meddai Dominic Findlay, Warden Coleg Llanymddyfri.

“Mae gweithio i gadw bechgyn a merched peniog sy’n gymwys i chwarae dros Gymru yng Nghymru a’r ardal yn hynod bwysig wrth i URC a’r Rhanbarthau weithio drwy’r nifer o heriau y maen nhw’n eu hwynebu.

“Talent ifanc Cymru yw’r dyfodol, a bydd y bartneriaeth hon yn helpu i greu llwybr arall eto iddynt yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.”

Un o’r perthnasoedd cyntaf o’r fath

“Mae’r Porthmyn wedi elwa ar berthynas waith ardderchog â Choleg Llanymddyfri erioed ac rydym nawr yn falch iawn o ehangu ein partneriaeth i gynnwys Y Drindod Dewi Sant,” meddai Peter Rees, cadeirydd Clwb Rygbi Llanymddyfri.

“Mae’r Uwch Gynghrair yng Nghymru yn rhan bwysig iawn o’r llwybr at rygbi proffesiynol ond gall fod yn yrfa heriol felly mae’n bwysig iawn y gallwn ddarparu pob cyfle i’n chwaraewyr ddatblygu eu gyrfa academaidd yn gyfochrog â chwarae ac, yn yr un modd, rydym am roi cyfle i fyfyrwyr dawnus yn y Coleg a’r Brifysgol gychwyn eu gyrfa rygbi proffesiynol ar lefel uchaf rygbi clwb yng Nghymru.

“Credwn mai hon yw un o’r perthnasoedd cyntaf o’r fath sydd wedi’i llunio o gwmpas clwb Lled-Broffesiynol Cymraeg ac mae’n dangos y pwyslais mawr a roddwn ar bob agwedd ar ddatblygiad chwaraewyr yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri.”