Cafodd Erol Bulut, sy’n 48 oed, ei benodi’n rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd yn ddiweddar. Yma, mae Siôn Misra yn bwrw golwg ar yr hyn sy’n wynebu’r rheolwr newydd a’r chwaraewyr y gallai eu denu ar ôl cyfnod cythryblus i’r clwb.
Mae Erol Bulut yn ymuno o glwb Gaziantep yn Nhwrci, ac mae wedi derbyn y rôl i olynu Sabri Lamouchi, y dyn oedd wedi cadw Caerdydd yn y Bencampwriaeth ddiwedd y tymor diwethaf.
Siaradodd Bulut â’r wasg am y tro cyntaf ddydd Llun (Mehefin 5), ac roedd o’n awyddus iawn i ddechrau gweithio gyda’r tîm yn syth. Diolchodd i’r perchennog Vincent Tan, y cadeirydd Mehmet Dalman, a’r prif weithredwr Ken Choo, gan ddweud bod y tri wedi cael trafodaeth yn y gobaith y byddai’n cael ei benodi.
“Roeddwn i eisiau her newydd, a dangos beth alla i ei wneud yn y Bencampwriaeth,” meddai. “Fel rheolwr, heb dargedau, ni allwch oroesi. Rydych chi angen targedau fel y gallwch chi weithio’n galed ar y cae gyda’r chwaraewyr. Mae’r chwaraewyr yn gwybod pa dargedau sydd gennym ni, ac i’w cyrraedd nhw, mae’n rhaid i ni weithio’n galed bob dydd, a hefyd bod yn ddisgybledig a pharchu ein gilydd.”
Record Erol Bulut yn Nhwrci
Ar ôl chwarae am ugain mlynedd, mae Bulut wedi bod yn rheolwr ers 2017. Daeth ei swydd gyntaf gyda Yeni Malatyaspor. Fe arweiniodd Bulut y clwb i’r pumed safle yn nghynghrair uchaf Twrci, y safle uchaf yn hanes y clwb.
Ar ôl dwy flynedd, cafodd swydd newydd gyda Alanyaspor. Unwaith eto, roedd Bulut wedi cyflawni gwyrthiau gyda’i glwb newydd. Yn 2019, chwaraeodd Alanyaspor yn rownd derfynol Cwpan Twrci am y tro cyntaf yn eu hanes. Yn anffodus, fe gollon nhw’r gêm i Trabzonspor. Serch hynny, llwyddodd Alanyaspor i sicrhau lle yn Ewrop am y tro cyntaf. Roedd o’n dymor hanesyddol, a Bulut oedd wrth y llyw trwy’r cyfan.
Dechreuodd clybiau mwyaf Twrci chwyrlïo o amgylch Bulut, ac yn y diwedd Fenerbache enillodd y ras i sicrhau ei lofnod. Roedd cyfnod Bulut gydag ail glwb Twrci yn dda, ond ddim yn anhygoel, ac fe adawodd y clwb ar ôl un tymor.
Nid oedd angen i Bulut aros yn hir am swydd newydd, gyda Gaziantep yn sicrhau ei wasanaethau. Parodd flwyddyn a hanner gyda’r clwb, ond gadawodd ar ôl rhediad o ganlyniadau gwael.
Chwaraewyr newydd
Wrth gwrs, bydd cefnogwyr Caerdydd eisiau gwybod pa chwaraewyr fydd yn gallu ymuno â’r clwb nawr mai Erol Bulut yw’r rheolwr.
Yng ngynhadledd y wasg, roedd yna gyffro rhwng Ken Choo a Mehmet Dalman, gyda sôn am enw mawr yn ymuno â’r clwb. Un posibilrwydd yw Aaron Ramsey. Mae ei gontract gyda Nice yn rhedeg allan haf yma. Gan fod Caerdydd ddim ond yn gallu arwyddo chwaraewyr sydd heb glwb, mae’r gobaith o gael Ramsey ’nôl yn y crys glas yn hynod o gyffrous.
Heblaw am Ramsey, mae gan Bulut nifer o gysylltiadau da yn Nhwrci, Groeg, a’r Almaen. Mae yna sôn yn Nhwrci y gall Anastasios Bakasetas, sy’n chwarae yng nghanol cae i Trabzonspor, ymuno â Chaerdydd ond mae Trabzonspor yn mynnu derbyn £6.5m amdano fo.
Mae nifer o chwaraewyr allan o gontract yn Nhwrci fyddai’n gallu gwella carfan Caerdydd. Mae Nathan Redmond â phrofiad o chwarae yn yr Uwch Gynghrair, tra gallai chwaraewyr fel Florent Hadergjonaj wella’r amddiffyn.
Beth bynnag sy’n digwydd, mae cefnogwyr yr Adar Gleision yn awyddus i weld sut fydd Bulut yn rhoi ei dîm at ei gilydd, ac mae yna hyder tawel o amgylch Stadiwm Dinas Caerdydd fod rhywbeth da ar droed.