Tarodd Laurie Evans ganred a Sam Curran hanner canred wrth i Surrey guro Morgannwg o 65 rhediad yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yng Nghaerdydd.

Sgoriodd Evans 118 heb fod allan a Sam Curran 66, tra bod Will Jacks wedi taro 46 wrth agor y batiad.

Sgôr Evans yw’r sgôr uchaf yn erbyn Morgannwg mewn gemau ugain pelawd, a’r sgôr uchaf ar gae Gerddi Sophia.

Roedd bowlio Morgannwg yn hynod siomedig, wrth iddyn nhw lwyddo i gipio dim ond dwy wiced mewn ugain pelawd, ar ôl i Dan Douthwaite orfod gadael y cae ag anaf.

Roedd y nod o 237 ar gyfradd ofynnol o 11.85 am fod yn un anodd i’w gwrso o’r dechrau’n deg, a dim ond Sam Northeast gyfrannodd yn sylweddol wrth daro 76.

Yr ymwelwyr yn clatsio

Manteisiodd Surrey ar eu penderfyniad i fatio’n gyntaf, wrth i Will Jacks a Laurie Evans wneud y mwyaf o’r cyfyngiadau maesu wrth gyrraedd 56 heb golli wiced erbyn diwedd y cyfnod clatsio.

Goroesodd Evans gyfle i’w ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Ruaidhri Smith yn y chweched pelawd, ac o’r fan honno aeth y batio o nerth i nerth wrth i Forgannwg ei chael hi’n anodd atal y llif rhediadau.

Cyrhaeddodd Evans ei hanner canred yn yr wythfed pelawd, a hynny oddi ar ddim ond 29 o belenni, ond daeth y wiced fawr yn yr unfed belawd ar ddeg, pan darodd y troellwr coes Peter Hatzoglu goes Will Jacks o flaen y wiced i adael Surrey yn 115 am un.

Aeth problemau anafiadau Morgannwg o ddrwg i waeth hefyd, pan fu’n rhaid i’r troellwr Callum Taylor adael y cae ar ganol pelawd, gyda’r capten Kiran Carlson yn camu i’r adwy i orffen y belawd.

Cafodd Evans ei ollwng ar y ffin ar 94 wrth yrru’r bêl i lawr corn gwddf Carlson yn yr unfed belawd ar bymtheg, a pharhau i glatsio wnaeth ei bartner Sam Curran, wrth daro dwy chwech yn olynol a thrydedd cyn diwedd y belawd gan y troellwr llaw chwith Prem Sisodiya.

Daeth canred Evans oddi ar 52 o belenni ar ôl iddo fe daro deg pedwar a phum chwech.

Cipiodd Morgannwg eu hail wiced yn y belawd olaf gan Jamie McIlroy, wrth i Sam Curran daro’r bêl yn uchel i’r awyr a chael ei ddal gan Colin Ingram am 66 ar y ffin ar ochr y goes.

Cafodd Jamie Overton ei ollwng oddi ar belen ola’r batiad, wrth i’w dîm orffen ar 236 am ddwy.

Cwrso’n ofer

Roedd Morgannwg eisoes dan bwysau erbyn y bedwaredd pelawd, wrth i Kiran Carlson daro’r bêl yn uchel i’r awyr a chael ei ddal ar ymyl y cylch gan Gus Atkinson oddi ar fowlio Sam Curran, i adael y sir Gymreig yn 33 am un.

Collon nhw eu hail wiced o fewn dim o dro pan gafodd Callum Taylor ei fowlio gan belen gynta’r capten Chris Jordan ym mhelawd ola’r cyfnod clatsio, gan orffen eu chwe phelawd gyntaf ar 48 am ddwy – gwahaniaeth o wyth rhediad.

Cwympodd y drydedd wiced ar 75 ar ddechrau’r nawfed pelawd, wrth i Ingram daro’r bêl i ochr y goes a chael ei ddal ar y ffin gan Curran oddi ar fowlio’r troellwr Sunil Narine.

Roedden nhw’n 94 am bedair ar ddechrau’r deuddegfed pelawd pan gafodd Chris Cooke ei fowlio gan Atkinson, ond cafodd Billy Root ei ollwng ar un yn niwedd y belawd.

Cafodd hwnnw ei fowlio yn y bedwaredd pelawd ar ddeg gan Curran, wrth iddyn nhw lithro i 114 am bump, ond cyrhaeddodd Sam Northeast ei hanner canred oddi ar 44 o belenni yn yr ail belawd ar bymtheg.

Collodd Morgannwg eu chweched wiced pan gafodd Prem Sisodiya ei ddal gan y capten Jordan oddi ar fowlio Atkinson yn y ddeunawfed pelawd, a’u seithfed pan gafodd Ruaidhri Smith ei ddal oddi ar ei belen gyntaf gan Cameron Steel ar ymyl y cylch oddi ar fowlio Sean Abbott.

Cafodd Northeast ei fowlio gan Jordan am 76 oddi ar belen olaf ond un yr ornest.

Ymateb

“Chwaraeodd Surrey yn dda iawn heno, wnaeth Laurie Evans a Will Jacks ddechrau’n eithriadol o dda gyda’r bat, ac wedyn daeth Sam Curran i mewn a chwarae’n arbennig hefyd,” meddai Sam Northeast.

“Roedd 230 fwy na thebyg yn ormod.

“Pe baen ni wedi cyrraedd rhywle yn agos i 200 i’w gwrso, gallai fod wedi bod yn wahanol iawn i’w gwrso.

“Bowlion nhw’n eithaf da ar adegau yn y fan honno, roedd hi’n noson anodd.

“Mae Colin Ingram a Chris Cooke wedi bod yn perfformio’n anhygoel, ac wedi dangos hynny ar hyd y ffordd yn y gystadleuaeth hon.

“Byddwn ni’n ôl, a bydd y bois hynny’n parhau i danio, maen nhw wedi perfformio’n anhygoel yn y gystadleuaeth hon.

“Byddwn ni’n taro’n ôl nos Wener.

“Doedd hi ddim am fod heno, ond rydyn ni’n edrych ymlaen at gêm arall.”