Mae Kyle Naughton, amddiffynnwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi llofnodi cytundeb newydd gyda’r clwb tan fis Mehefin 2024.

Daw hyn yn sgil ansicrwydd ynghylch dyfodol y chwaraewr 34 oed, gyda’i gytundeb presennol yn dirwyn i ben ddiwedd y mis yma.

Erbyn i’w gytundeb newydd ddod i ben, bydd e wedi treulio naw mlynedd gyda’r clwb, ac mae e ar drothwy 300 o gemau i’r clwb ar ôl symud o Spurs yn 2015.

Er mai prin fu ei ymddangosiadau ar y cae dros y tymhorau diwethaf, mae ei brofiad wedi bod yn hanfodol i’r Elyrch yn dilyn eu cwymp o Uwch Gynghrair Lloegr, ac mae e wedi chwarae fel amddiffynnwr canol, cefnwr, asgellwr cefn a chwaraewr canol cae yn ôl yr angen.

Dechreuodd ei yrfa gyda Sheffield United ar ôl ymuno ag academi’r clwb yn saith oed, ond ymunodd â Spurs yn 2009, gan dreulio cyfnodau ar fenthyg gyda Middlesbrough, Caerlŷr a Norwich cyn symud i Abertawe, lle bu’n gapten ar y tîm ar gyfer gemau yn erbyn Northampton a Cambridge United yng Nghwpan Carabao yn 2019.