Mae’r golwr Ben Foster wedi llofnodi cytundeb i aros gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam y tymor nesaf.
Fe wnaeth y golwr, oedd wedi ymddeol, ddychwelyd i’r cae i helpu’r clwb ddiwedd y tymor diwethaf ar ôl i Rob Lainton gael ei anafu, ac roedd e’n allweddol wrth i Wrecsam ennill dyrchafiad i’r Gynghrair Bêl-droed.
Wrth lofnodi’r cytundeb, dywedodd ei fod “yn mwynhau bod gyda’r clwb, yn rhan o’r tîm a phopeth mae Wrecsam yn sefyll drosto”.
Mae e hefyd wedi canmol y cefnogwyr, y rheolwr Phil Parkinson a’i gynorthwyydd Steve Parkin a nifer o ffigurau allweddol eraill o fewn y clwb.
Ychwanegodd fod Wrecsam yn teimlo “fel bod adref”, ac nad yw “fyth wedi ymuno â chlwb pêl-droed a theimlo’n gartrefol mor gyflym”.
Chwaraeodd Foster i Wrecsam yn 2005, ar fenthyg o Stoke, ac fe symudodd yn barhaol i Manchester United yn fuan wedyn.
Daeth ei awr fawr yng nghrys Wrecsam y tymor diwethaf pan wnaeth e arbed cic o’r smotyn yn y fuddugoliaeth o 3-2 dros Notts County i ennill y gêm a’r dyrchafiad.
Chwaraeodd e wyth gêm y tymor diwethaf, gan gadw tair llechen lân.
Dywed Phil Parkinson fod y clwb “wrth eu boddau” ei fod e wedi llofnodi’r cytundeb, a’i fod e’n “allweddol” iddyn nhw ar y cae ac oddi arno.