Mae’r chwaraewr ail reng Cory Hill wedi tynnu’n ôl o garfan baratoadol Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.

Daw hyn ar ôl iddo dderbyn cytundeb newydd gan glwb am resymau teuluol, ac ar ôl i Rhys Webb, Alun Wyn Jones a Justin Tipuric gyhoeddi eu hymddeoliadau.

Mae’r prop Rhys Carré hefyd allan o’r garfan am resymau’n ymwneud â’i ffitrwydd corfforol.

Er gwaetha’r ergyd ddiweddaraf i Warren Gatland, mae Cory Hill yn mynnu nad yw e wedi camu o’r llwyfan rhyngwladol am y tro olaf a’i fod e’n “gobeithio bod yn ôl yng nghrys Cymru yn y dyfodol”.

Mae Hill wedi ennill 32 o gapiau dros ei wlad, ond fe symudodd i Japan at Yokohama Canon Eagles yn 2021, oedd yn golygu na fyddai bellach yn gymwys i gynrychioli Cymru yn sgil y rheol sy’n mynnu bod rhaid bod chwaraewyr sy’n chwarae dramor fod wedi ennill 60 o gapiau er mwyn parhau i chwarae rygbi ryngwladol.

Ond mae’r trothwy bellach wedi’i ostwng i 25 cap, ac mae lle i gredu bod holl ranbarthau Cymru’n awyddus i ddenu’r clo yn ôl i Gymru.