Mae tîm criced wedi colli eu hail gêm ugain pelawd o’r bron yn y Vitality Blast, yn dilyn crasfa o 51 o rediadau gan Essex yng Nghaerdydd.

Dyma’r ail sgôr gorau erioed mewn gêm ugain pelawd yng Ngerddi Sophia, ac roedd y diolch i Paul Walter, wrth i’w 78 helpu’r Eryr i lanio ar 226 am naw.

Cafodd ei gefnogi gan Michael Pepper (42) a Daniel Sams (30) i osod nod sylweddol i’r sir Gymreig.

Yr Eryr yn hedfan

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, roedd yr Eryr yn hedfan pan gollon nhw eu wiced gyntaf yn y drydedd belawd, wrth i Robin Das daro’r bêl yn uchel i’r awyr oddi ar fowlio Jamie McIlroy a chael ei ddal ar ymyl y cylch gan Peter Hatzoglou, gyda’r Saeson yn 35 am un.

Daeth dwy wiced arall i Forgannwg ym mhelawd ola’r cyfnod clatsio, wrth i Feroze Khushi yrru’n syth at Colin Ingram ar yr ochr agored, cyn i Josh Rymell yrru’n sgwâr at Timm van der Gugten i sicrhau pelawd ddi-sgôr i Ruaidhri Smith, a’r ymwelwyr yn 67 am dair ar ddiwedd y chwe phelawd.

Gyda Paul Walter a Michael Pepper wrth y llain, daeth ychydig o adferiad i Essex erbyn hanner ffordd, pan oedden nhw’n 101 am dair ac yn edrych fel pe bai siawns o hyd y gallen nhw adeiladu sgôr.

Ond wrth i Forgannwg droi at y troellwyr, daeth llwyddiant i’r troellwr coes o Awstralia, Peter Hatzoglou wrth daro coes Pepper o flaen y wiced am 42, a’r Saeson yn 105 am bedair.

Daeth hanner canred Walter ag ergyd chwech oddi ar 24 o belenni, ei bedwerydd chwech yn y batiad, ynghyd â phedwar pedwar, ond collodd Essex eu pumed wiced ar 159 pan gafodd Matt Critchley ei ddal yn safle’r goes fain gan Jamie McIlroy oddi ar fowlio van der Gugten am 13.

Roedd yr ymwelwyr yn beryglus o agos at fod ar eu ffordd tuag at dorri’r record am y sgôr uchaf erioed yng Nghaerdydd pan yrrodd Walter yn syth at Colin Ingram ar y ffin oddi ar fowlio Hatzoglou, a’i dîm yn 193 am chwech yn yr ail belawd ar bymtheg.

Sgoriodd Daniel Sams 30 yn niwedd y batiad cyn cael ei fowlio gan Smith, cyn i Northeast ddal Simon Harmer ar y ffin ar ochr y goes oddi ar fowlio McIlroy cyn i Essex fynd heibio’r ail sgôr gorau erioed yng Nghaerdydd.

Cafodd Shane Snater ei redeg allan oddi ar belen olaf ond un y batiad, ac roedd y Saeson yn 226 am naw ar ôl eu hugain pelawd.

Cwrso’n ofer

Wrth gwrso nod enfawr i ennill, dechreuodd Morgannwg yn gadarn yn y cyfnod clatsio, wrth i Sam Northeast a’r capten Kiran Carlson gyrraedd 65 heb golli wiced – dau rediad y tu ôl i Essex, ond â thair wiced wrth gefn o gymharu â’r Saeson.

Ond collodd y sir Gymreig eu wiced gyntaf ar 76 yn niwedd y seithfed pelawd, pan geisiodd Carlson yrru dros ben y cylch, a chael ei ddal yn sgwâr ar yr ochr agored gan Sam Cook oddi ar fowlio’r troellwr coes Matt Critchley am 40.

Roedd y sgôr yn gyfartal ar ôl hanner batiad Morgannwg, 101, ond roedd Morgannwg wedi colli dwy wiced yn llai na’u gwrthwynebwyr gan roi llygedyn o obaith i’r sir Gymreig wrth iddyn nhw geisio ymosod yn ail hanner y batiad.

Ar ôl i Northeast gael ei fowlio gan Critchley, daeth y pâr peryglus – Chris Cooke a Colin Ingram – ynghyd yn y deuddegfed pelawd gyda 119 o rediadau yn rhagor i’w cwrso.

Byddai hanner canred wedi bod yn un haeddiannol iawn i Ingram, ac yntau wedi taro pum pedwar a thri chwech, ond cafodd ei ddal ar y ffin ar ochr y goes gan Critchley oddi ar fowlio Shane Snater i adael ei dîm yn 141 am dair.

Cafodd Cooke ei ddal gan Walter oddi ar ei fowlio’i hun, ac fe ailadroddodd y bowliwr y gamp oddi ar y belen ganlynol i waredu Billy Root, gan adael Morgannwg yn 158 am bump yn yr unfed belawd ar bymtheg.

Roedden nhw’n 166 am chwech pan darodd y troellwr Simon Harmer goes Callum Taylor o flaen y wiced, a gobeithion Morgannwg wedi hen bylu.

Llithron nhw i 174 am wyth pan gipiodd Daniel Sams ddwy wiced mewn dwy belen, gyda Zain ul Hassan wedi’i ddal gan Josh Rymell, a Ruaidhri Smith wedi’i ddal gan Daniel Sams.

Cafodd Jamie McIlroy ei fowlio gan Sams i adael Morgannwg yn 175 am naw, ond o ganlyniad i anaf Peter Hatzoglou i’w gefn, doedd e ddim wedi gallu batio ac roedd y Saeson yn fuddugol o 51 rhediad.

Ymateb

“Fe wnaethon ni ildio gormod o rediadau, mae hi mor syml â hynny,” meddai’r capten Kiran Carlson.

“Gyda’r bowlio a’r maesu, mae rhywbeth sydd ddim yn mynd yn hollol iawn ac rydyn ni am geisio trwsio hynny.

“Roedd y llain yn un 200, a dw i’n meddwl pe baen ni’n cwrso 200 y bydden ni wedi croesi’r llinell y ffordd wnaethon ni fatio.

“Pan ydych chi’n cwrso’r math yna o nod, rhaid i chi fynd amdani o’r dechrau’n deg ac weithiau fe allai weithio, ond pan ydych chi’n cwrso 230 mae’n un o’r pethau hynny lle byddwch chi’n colli wicedi, ac mae’n rhaid i rywbeth arall fynd yn arbennig o dda er mwyn ei gwrso fe’n gywir.

“Rydyn ni wedi bod yn cwrso gormod o rediadau ddwy gêm yn olynol nawr, felly mae’n rywbeth i ni edrych arno, fi fel capten a Mark Alleyne fel hyfforddwr.”