Bydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio taro’n ôl wrth iddyn nhw herio Essex yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yng Nghaerdydd heno (nos Wener, Mehefin 9).

Collon nhw eu gêm ddiwethaf yn erbyn Surrey, ond maen nhw wedi ennill pedair allan o’u chwe gêm yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.

Fydd Dan Douthwaite ddim ar gael oherwydd anaf ar ôl gadael y cae ganol yr wythnos, ond mae Ben Kellaway a Timm van der Gugten yn dychwelyd, y naill ar ôl cwblhau astudiaethau a’r llall ar ôl gwella o anaf.

Mae gan y ddau dîm yr un nifer o bwyntiau, gyda Morgannwg yn bedwerydd yn y tabl ac Essex yn bumed, ond mae gan Forgannwg well gyfradd sgorio.

Gemau’r gorffennol

Dydy Essex ddim wedu curo Morgannwg mewn gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd ers 2016, pan darodd Jesse Ryder 42 a Tom Westley 31 wrth i’r Saeson ennill o saith wiced.

Daeth y gemau yn 2017 a 2019 i ben heb ganlyniad, gyda Morgannwg yn fuddugol o chwe rhediad yn 2018, o saith wiced yn 2021 ac o chwe wiced yn 2022.

Y tymor diwethaf, cipiodd Michael Hogan a Michael Neser dair wiced yr un ar ôl i Sam Northeast daro 44.

Yn 2021, tarodd Nick Selman a Marnus Labuschagne hanner canred yr un fel rhan o bartneriaeth o 110 mewn 13.1 o belawdau.

Yn 2018, sgoriodd Colin Ingram 89 a Graham Wagg 53 wrth i’r sir Gymreig ennill o chwech rhediad, y tro cyntaf iddyn nhw guro Essex mewn gêm ugain pelawd yng Nghymru.

Roedd Essex yn fuddugol yn 2010, 2011, 2014, 2015 a 2016 hefyd.

Carfan Morgannwg: C Taylor, K Carlson (capten), B Root, B Kellaway, A Gorvin, S Northeast, R Smith, Zain ul Hassan, P Sisodiya, P Hatzoglou, J McIlroy, C Ingram, C Cooke, T van der Guguten.

Carfan Essex: S Harmer (capten), B Allison, W Buttleman, S Cook, M Critchley, R Das, F Khushi, A Nijjar, M Pepper, J Rymell, D Sams, S Snater, P Walter, T Westley.