Yn ddiweddar, ges i’r fraint o gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol gyda phobol ifanc y gogledd-ddwyrain, a chyfle hefyd felly i fwynhau eu creadigrwydd a’u chwilfrydedd. Bendith yw ‘gwaith’ fel hyn, rhaid dweud.

Buom yn trafod I.D.Hooson, un o feirdd eu cynefin, ac roedden nhw’n gweithio ar gwpledi syml hefo odl. Roedd yna lot o sgriblan a golwg canolbwyntio arnyn nhw, yna cododd un bachgen ei law. Dywedodd ei fod yn meddwl ei fod wedi sgwennu cwpled oedd yn odli, ond doedd o ddim cweit yn siŵr chwaith:

Roedd yna awdur mawr

yn dod o ardal dlawd

 

A gyda hynny, dechreuodd sgwrs ddifyr tu hwnt…

Natur yr ‘odl’

 Fel man cychwyn, fe wnes i egluro fy mod i yn cytuno ei fod yn odli, ond y byddai eraill yn anghytuno, a bod rhaid meddwl yn ofalus, gan ddibynnu ar y cyd-destun.

Roedd y grŵp ar y bwrdd yma yn hyderus iawn o’u doniau, gyda barn reit gadarn, felly phoenais i ddim am eu gwthio nhw ryw ychydig. Gofynnais i pam roedd o’n amau’r odl? Atebodd nad oedd y geiriau yn gorffen hefo’r un llythrennau.

Cytunais, ond yna dywedais i fod y geiriau, serch hynny, yn swnio fel eu bod nhw’n odli, a ’sgwn i pam oedd hynny, felly? Atebodd yn syml, “Y sŵn ‘aw’.”

 “Ynde!” medde fi. Ac mewn geiriau technegol: ‘cyseinedd’ (‘assonance’ yn Saesneg); nid yn odl nac yn gyfatebiaeth lawn, ond yn cyfateb ddigon i awgrymu cyfatebiaeth – yn yr achos hyn, mae’r llefariaid (vowels) yn debyg, ond nid y cytseiniaid (consonants).

 Rhannais fy stori o fynd i ychydig o drafferth ar raglen Y Talwrn eleni, hefo fy nghân ysgafn ‘Y Gem Genedlaethol’, oedd yn cynnwys y pennill:

Fyddem byth yn hapus,

ond mae hynny’n ffodus,

o leiaf mae gennym hyn i sgwrsio am.

Mae hi’n rhy gynnes i ni gysgu,

neu’n rhy oer i ninnau drefnu,

ddod at ein gilydd am ryw noson adloniant.

Os anwybyddwn y ffaith fod llinell tri yn gorffen hefo arddodiad (preposition), sydd, rwy’ wedi dysgu ers hynny, yn anghywir yn y Gymraeg a’r Saesneg; y gwall dan sylw yw odli ‘am’ ac ‘ant’, mewn pennill â’r patrwm AABCCB.

Barn y Meuryn

Yn ôl Ceri Wyn Jones, mi oedd hyn yn wall fyddai’n achosi aflonyddwch ymysg yr athrawon Cymraeg oedd yn gwrando. A dywedodd rhywbeth fel hyn:

“Os ydych chi’n mynd i ganu eich cân, gwnewch yn siŵr ei bod yn gweithio ar bapur hefyd; cofiwch taw cystadleuaeth sgwennu yw’r Talwrn.”

Synnais, am sawl rheswm. I mi, acid test a yw cân yn gweithio yw ei chanu – siŵr o fod? Felly, oni ddylai hyn fod yn rhan o ofynion y gystadleuaeth? Y ffaith nad yw hyn yn ofyniad sy’n wallus, yn fy marn i.

A bod yn deg, mi wnaeth Ceri Wyn fyfyrio rywfaint wedyn; rhoddodd ei ben i’r naill ochr gan ddweud rhywbeth fel hyn: “…ond efallai taw dyna yw gogoniant cân fel hyn…”

Fy ateb i i hynny yw, “Ie, Ceri, fel arfer”… Mae ‘cyseinedd’ rhwng llefariaid yn ffordd boblogaidd iawn o ‘odli’ mewn caneuon.

Caneuon poblogaidd

Yn ddiweddar, clywais am y tro cyntaf ers meitin y gân ‘The NeverEnding Story’, gan ei bod yn ymddangos y gyfres ‘Stranger Things’. Mae’r lyrics yn dechrau gyda’r odl:

Turn around, look at what you see

In her face, the Picture of your dreams

 

I’r llygad, mae hyn yn edrych yn wallus o odl, ond i’r glust mae’n soniarus dros ben, yn enwedig gan fod yna estyniad o’r ddau air sy’n odli wrth ei chanu.

Wrth baratoi fy ngholofn ddiwethaf, fues i wrthi’n astudio’r gân ‘Blowin’ in the Wind’ gan Bob Dylan, sy’n dilyn y patrwm odli ABCBDB. Ym mhennill 1, mae’n odli:

Man / Sand / banned

Ac ym mhennill 3, mae’n odli:

Sky / Cry / Died

I fod yn glir, dwi’n caru Bob Dylan; mae’n un o fy arwyr llenyddol… Ond sa i’n meddwl fysa fo’n llwyddiannus iawn ym myd barddol Cymru… ddim hefo’r gân ‘wallus’ hon, beth bynnag!

Mae’r emyn-gân ‘Never Ever’ gan All Saints yn cynnwys llu o enghreifftiau, gan gynnwys:

Wrong / On

Phone / Know

Low / Black hole

 

Ac mae arwydd-gân y gyfres M*A*S*H yn cynnwys yr odl heriol yma:

Painless/ changes

 

Mae yna gymaint o enghreifftiau difyr gen i – digon i sgwennu traethawd doethuriaeth arnyn nhw! Ond dw i’n credu taw brenin y cam-odlwyr yw Brad Paisley â’i gân canu gwlad, ‘Me neither’. Dyma i chi masterclass ar yr odl ‘jaunty’, ond beltar o gân serch hynny!

I gloi

Wrth gwrs, mi fyswn yn medru jyst derbyn fod yna ddim lle am odlau jaunty ar Y Talwrn… ond lle ddiawl fyddai’r hwyl yn hynny? A beth bynnag, mae’n bwnc difyr i’w drafod, yn enwedig hefo pobol ifanc!

A beth fedrwn ni ei ddysgu o’r rwdlan hyn, tybed? Wel, mae yna eironi taw un o bobl-y-llygad sy’n pwyntio hyn allan, ond: wrth ystyried a yw caneuon yn ‘gweithio’ ai peidio, y glust biau hi!