Mae gŵyl gerddorol yn awyddus i ddefnyddio hanes y Dywysoges Gwenllian fel ysbrydoliaeth.
Bydd enwau mawr Saesneg fel Example yn chwarae yng ngŵyl Gwên Gwen yng Nghydweli, ochr yn ochr ag artistiaid Cymraeg fel Mari Mathias ac Ani Glass.
Nod y trefnwyr ydy datblygu’r ŵyl i fod yn fwy Cymraeg yn y dyfodol, ynghyd â defnyddio hanes y Dywysoges Gwenllian i sicrhau bod digonedd o berfformiadau gan fenywod.
Bydd Gwên Gwen yn cael ei chynnal mewn sawl lleoliad ar hyd y dref rhwng Awst 11 ac 13.
Yn ogystal â cherddoriaeth, mae’r ŵyl yn cynnwys gweithgareddau fel comedi yng Nghlwb Rygbi Cydweli, sesiwn ioga, a gweithdai celf a chrefft.
Dylanwad Gwenllian
Hon fydd yr eildro i’r ŵyl gael ei chynnal, ac mae hi’n cael ei threfnu gan griw bach o wirfoddolwyr, gan gynnwys Crisial Davies, Cynghorydd Llafur ward Cydweli a San Ishmael ar Gyngor Sir Caerfyrddin.
“Roedd e’n waith caled llynedd ond daethon ni â fe at ei gilydd, ond y syniad oedd cael popeth ‘Cydweli’ mewn yn yr ŵyl a hefyd i ddod â phethau sy’n fwy gwladol hefyd,” meddai wrth golwg360.
“[Wrth feddwl am yr hanes] daeth y syniad o’r Dywysoges Gwenllian, mae hi’n legend rownd ffordd hyn.
“Mae hi’n chwedl sydd ddim wedi cael llawer o sôn amdani’n ddiweddar, ac mae hynny’n biti.
“Beth oedden ni mo’yn gwneud oedd dweud ei stori hi drwy’r ŵyl.”
Mae’r trefnwyr yn gweld yr ŵyl fel ffordd o ddweud stori newydd a chadw chwedl y Dywysoges Gwenllian yn fyw.
Bu farw Gwenllian ferch Gruffudd mewn brwydr yng Nghastell Cydweli yn y deuddegfed ganrif, wrth iddi arwain byddin yn erbyn arglwydd Normanaidd tra’r oedd ei gŵr – Gruffudd ap Rhys, Tywysog y Deheubarth – i ffwrdd.
Yn y pen draw, daeth ei mab ieuengaf Rhys ap Gruffudd – yr Arglwydd Rhys – yn Dywysog ar y Deheubarth, a hwnnw gynhaliodd yr eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi yn 1176.
“Roedd Gwenllian yn fenyw gref, ac rydyn ni mo’yn i hynna fod yn rhan o deimlad yr ŵyl hefyd, felly rydyn ni’n edrych am berfformiadau gan fenywod,” meddai Crisial Davies.
“Mae pobol fel Mari Mathias gyda ni, ac rydyn ni’n dwlu ar Mari Mathias.
“Es i i’w gweld hi yn Abertawe, ac roedd hi jyst yn grêt ac roeddwn i’n meddwl, ‘Hi yw Gwenllian’. Mae hi’n chwarae ar y Prif Lwyfan, a dw i wir yn edrych ymlaen at hwnna.”
Mae’r trefnwyr yn gobeithio gwneud yr ŵyl mor gynhwysol â phosib yn y dyfodol, a sicrhau cynrychiolaeth deg i fenywod.
Anelu at fwy o Gymraeg
Example a Gentleman’s Dub Club fydd yn cloi nosweithiau’r ŵyl, ac yn ôl y trefnwyr mae bandiau ifanc lleol wrth eu boddau’n cael perfformio ochr yn ochr â nhw.
Er bod artistiaid sy’n perfformio’n Gymraeg fel Pwdin Reis, Cwtsh a Ci Gofod yn rhan o’r arlwy, y nod yn y pen draw yw cynnwys mwy o fandiau Cymraeg, a rhoi lle amlycach i’r iaith.
Mae’r ŵyl yn gweithio gyda lleoliad yng Nghaerfyrddin, Cwrw, sy’n cynnal nosweithiau cymunedol ac yn rhoi llwyfan i fandiau Cymraeg.
“Roedden ni eisiau llawer mwy o fandiau Cymraeg, ond mae’r diwrnod yn anffodus yn clasio gyda’r Eisteddfod ac roedden ni ffaelu symud y dyddiad.
“Mae rhai o’r bandiau’n dod lawr o’r Eisteddfod i chwarae, ond dyna’r broblem gaethon ni.
“Rydyn ni mo’yn llawer mwy o fandiau Cymraeg y flwyddyn nesaf.
“Mae Cwrw hefyd yn rhoi platfform grêt i fandiau Cymraeg, maen nhw’n deall y pwysigrwydd… mae Adwaith wedi bod yn chwarae yna. Mae’n grêt bod yn gweithio gyda nhw.
“Maen nhw’n cael llwyfan yn yr ŵyl eleni, felly mae lot o fandiau newydd Cymraeg yn mynd i fod ar y llwyfan yna, felly dw i’n edrych ymlaen at hwnnw.
“Rydyn ni wir mo’yn mwy o Gymraeg yn yr ŵyl y flwyddyn nesaf, rydyn ni’n dîm bach iawn, iawn.
“Flwyddyn nesaf, dw i mo’yn dod â rhywun mewn sy’n mynd i ffocysu ar y Gymraeg a dod â mwy o Gymraeg mewn.
“Er fy mod i’n siarad Cymraeg fy hunan, dw i mor fishi yn trefnu’r peth, mae eisiau rhywun sydd â ffocws ar hwnnw.
“Mae e’n beth cymunedol, dydyn ni ddim yn cael cyflog na dim byd fel yna.
“Ond mae e’n ddechreuad.”