Mae rhaglenni gorsaf Radio Ysbyty Gwynedd bellach ar gael i wrando arnyn nhw drwy Alexa.

Mae’r orsaf, sydd wedi bod yn darlledu i gleifion ers 1976, bellach ar gael ar ddyfais Amazon drwy ofyn i Alexa i’w chwarae, sy’n golygu bod modd gwrando ar raglenni’r orsaf yn unrhyw le yn y byd.

Mae Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd, wrth ei fodd gyda datblygiad diweddar yr orsaf.

“Mae’n wych bod ein gorsaf bellach argael ar Alexa,” meddai.

“Mae gennym ni gymaint o raglenni gwych ar Radio Ysbyty Gwynedd, ac mae’n bwysig i ni fel gorsaf wneud ein rhaglenni hyd yn oed yn fwy hygyrch i’n gwrandawyr.

“Mae gennym gleifion yn gwrando yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, a gwrandawyr yn ein cymuned ehangach a hyd yn oed ymhellach, cyn belled ag Awstralia.

“Rydym yn gysylltiad pwysig i gleifion a staff Ysbyty Gwynedd, yn ogystal â ffrindiau a theulu, a hefyd cefnogwyr ein gorsaf yn y gymuned.

“Mae Cymraeg Alexa yn wych hefyd – unwaith i chi ofyn i Alexa ‘Play Bangor Hospital Radio’, mae Alexa yn ateb gyda ‘Radio Ysbyty Gwynedd’ yn berffaith!”

Sut i wrando

Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty.

Gall y gymuned ehangach wrando ar-lein drwy fynd i’r wefan www.radioysbytygwynedd.com, i ap Radio Ysbyty Gwynedd, neu’n uniongyrchol i Alexa.

Cafodd Radio Ysbyty Gwynedd ei enwi’n ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ y Deyrnas Unedig gan y Gymdeithas Darlledu Ysbytai, ac enillodd hefyd y wobr efydd am Orsaf Ddigidol y Flwyddyn yng Ngwobrau Radio Cymunedol 2022.

Mae’r orsaf yn mynd o nerth i nerth, gan weithio ar raglenni elusennol arbennig i dynnu sylw at waith gwerthfawr elusennau lleol a chenedlaethol, a nifer o ddarllediadau allanol yn cefnogi digwyddiadau gwych gan gynnwys Gŵyl Gerdd Pier Garth Bangor 2023, Balchder Gogledd Cymru 2023, Relay For Life 2023 a Phen-blwydd 75 y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Byddan nhw hefyd yn darlledu’n fyw o Ŵyl Haf Bangor ar Awst 19.