Alis Glyn, Francis Rees, Moss Carpet a Tew Tew Tenau ydy’r pedwar sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni.

Dyma’r bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, ac fe wnaeth 14 o artistiaid gystadlu eleni.

Mae Brwydr y Bandiau yn cael ei threfnu rhwng Maes B a BBC Radio Cymru, a bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan.

Glyn Rhys-James o’r band Mellt; Marged Siôn, artist ac aelod o Self Esteem; Marged Gwenllian o’r Cledrau a Ciwb, a Siôn Land o Alffa oedd yn beirniadu’r gystadleuaeth eleni.

Roedd hi’n gystadleuaeth agos, yn ôl y beirniaid, a chafodd y pedwar “dasg anodd iawn” wrth ddewis y pedwar ddaeth i’r brig.

Yr artistiaid

Alis Glyn

Mae Alis Glyn yn artist ifanc o Gaernarfon sydd wedi bod yn rhan o brosiect Merched yn Gwneud Miwsig, ac mae hi “wrth ei bodd bod hi wedi cyrraedd y rownd derfynol”

“Dw i’n edrych ymlaen yn arw at berfformio ar Lwyfan y Maes ar bnawn dydd Mercher yn y ‘Steddfod a gwrando ar y tri artist arall,” meddai.

Mae Alis Glyn yn hoff iawn o gerddoriaeth artistiaid fel Mared, Lizzie McAlpine, Gwilym a’r Beatles.

Francis Rees 

Dyma’r ail flwyddyn i Francis Rees o Dywyn gyrraedd y pedwar olaf yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau.

Mae hi’n un arall o griw gweithdai Merched yn Gwneud Miwsig, ac mae’n disgrifio’r gymuned mae’r prosiect yma wedi’i chreu fel “un sy’n tyfu, ac yn gymuned sydd yn helpu ei gilydd”.

Mae’n disgrifio ei cherddoriaeth fel “dream pop”, gan ychwanegu ei bod hi wedi cael tipyn o ysbrydoliaeth gan gerddoriaeth Ewropeaidd ar ôl yr Eurovision eleni.

Moss Carpet

Prosiect o Gaernarfon sy’n hoffi arbrofi gyda gwahanol genres yw Moss Carpet.

Mae’r prosiect wedi bod wrthi’n creu cerddoriaeth am bum mlynedd, a doedden nhw byth yn dychmygu y byddai pobol yn gwrando ac yn mwynhau’r gerddoriaeth.

Tew Tew Tenau

Band ifanc o Ddinbych yw Tew Tew Tenau, a dywed Eban Elwy Williams, prif leisydd y band, mai Brwydr y Bandiau oedd y nod ers y dechrau un.

Fel band, mae eu prif ddylanwadau’n dod o gerddoriaeth roc, rap a reggae.

“Rydyn ni’n teimlo’n lwcus iawn i gael y platfform yma i rannu ein cerddoriaeth â chynulleidfa yn y brifwyl,” meddai.

Mae’r pedwar wedi recordio sesiynau yn stiwdio Sain, ac mae’r perfformiadau ar gael i’w gwylio ar sianel YouTube Maes B.

Safon “wych”

Yn ôl Marged Gwenllian, un o’r beirniaid, roedd y safon eleni yn “wych”, a gan fod nifer uchel wedi ymgeisio roedd hi’n dipyn o dasg cwtogi’r rhestr.

“Mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn un o’r cystadlaethau pwysicaf yn yr Eisteddfod, yn enwedig ar gyfer cerddoriaeth gyfoes Gymraeg,” meddai Siôn Land, drymiwr Alffa, enillydd Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017.

“Mae’r gystadleuaeth yn galluogi i’r artistiaid i fynd i’r cam nesaf a chael mwy o ymwybyddiaeth ar draws Gymru a thu hwnt!

“Roedd y gystadleuaeth yn rhan hanfodol o daith Alffa, a heb y gystadleuaeth fysen ni ddim yn lle rydyn ni rŵan.”

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal am 3:30 brynhawn dydd Mercher, Awst 9 ar Lwyfan y Maes.