Disgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen ydy Alis Glyn, sydd ar ganol cwblhau ei TGAU. Ond pan dydy hi ddim yn yr ysgol neu’n astudio, mae hi’n cyfansoddi wrth y piano.

Ac er mai megis dechrau mae ei gyrfa gerddorol, mae Alis yn prysur adeiladu ei chasgliad ac wedi bod yn perfformio mewn amryw o wyliau’r llynedd.

‘Seithfed Nef’

‘Seithfed Nef’ yw ail sengl Alis, yn dilyn rhyddhau ei sengl Nadoligaidd ‘Golau’ ym mis Rhagfyr y llynedd.