Ar frig un o restrau mwyaf dethol y byd rhedeg pellter hir, mae Olympiaid a phencampwyr Ewrop, a hwythau oll wedi llwyddo i gyflawni chwech o rasys marathon mwyaf hybarch y byd.
Mae’r rasys yma yn cael eu galw’n Six Majors, ac yn cael eu cynnal ledled y byd yn Tokyo, Chicago, Berlin, Llundain, Boston ac Efrog Newydd.
Ac wedi cwblhau’r cyfan, mae pob rhedwr yn ennill medal serennog, yn llythrennol.