Mae sôn am greu 40,000 o swyddi newydd yng Nghymru drwy sefydlu porthladdoedd rhydd. Ond pa mor realistig yw’r cynlluniau mewn gwirionedd?
Mae statws porthladd rhydd wedi ei roi i ddwy ardal yng Nghymru wedi iddyn nhw gael eu cymeradwyo gan Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig.
Bydd ardal ‘Porthladd Rhydd Ynys Môn’ yn cwmpasu Caergybi, Parth Ffyniant Ynys Môn yn Rhos-goch a chanolfan wyddoniaeth ac arloesi M-Sparc yn y Gaerwen.
Ac fe fydd ‘Porthladd Rhydd Celtaidd’ wedi ei leoli ym mhorthladdoedd Port Talbot ac Aberdaugleddau yn Sir Benfro.
Dyma borthladdoedd fydd yn cynnig sawl mantais i gwmnïau sydd am sefydlu eu busnes o fewn eu ffiniau.
Yn wahanol i’r drefn arferol, nid oes yn rhaid i gwmni mewn porthladd rhydd dalu unrhyw drethi wrth fewnforio nwyddau neu ddeunyddiau crai, gan eu bod y tu allan i ffiniau tollau gwlad.
Hefyd, gall y cynhyrchion sy’n cael eu mewnforio i’r porthladdoedd rhydd gael eu defnyddio i greu cynnyrch newydd a gellir yna ei allforio dramor heb dalu unrhyw drethi.
Mae manteision eraill o gael porthladdoedd rhydd hefyd megis ardrethi busnes is a’r hawl i dalu llai o yswiriant gwladol ar gyfer staff.
A thra bod rhai’n dadlau bydd sefydlu porthladdoedd rhydd newydd yn creu swyddi ac yn denu buddsoddiadau, mae eraill yn pryderu eu bod dim ond yn annog busnesau i symud o un ardal o’r wlad i’r llall ac felly ddim yn hybu’r economi leol.
Mae eisoes wyth porthladd rhydd yn Lloegr tra bod un wrthi’n cael ei sefydlu yn yr Alban.
Fodd bynnag, mae’r Undeb Ewropeaidd yn amheus o werth y porthladdoedd hyn oherwydd eu bod yn gysylltiedig â throsedd, osgoi talu trethi, amodau gweithio gwael a therfysgaeth, ac wedi rhoi stop ar eu sefydlu nhw.
O ran Cymru, yr addewid uchelgeisiol yw y byddan nhw yn creu hyd at 40,000 o swyddi newydd mewn dwy ardal arfordirol, gan adfywio’r economi ym Môn, Sir Benfro a Phort Talbot am flynyddoedd i ddod.
Fodd bynnag, mae’r newyddion am eu sefydlu wedi denu ymatebion cymysg gan arbenigwyr a gwleidyddion gyda rhai’n pryderu na fydden nhw yn arwain at dwf economaidd lleol.
Rishi a Mark yn cytuno
Ym mis Mawrth roedd Prif Weinidogion Cymru a’r Deyrnas Unedig yng Nghaergybi i gyhoeddi fod Môn am gael porthladd rhydd.
Ac roedd Rishi Sunak yn llawn addewidion am well yfory.
“Mae Cymru’n rhan lewyrchus o’r Deyrnas Unedig, a bydd y porthladdoedd rhydd newydd sy’n cael eu creu heddiw yn gweld busnesau a chyfleoedd i bobl yn Ynys Môn, Port Talbot ac Aberdaugleddau a’u cyffiniau yn mynd o nerth i nerth,” meddai Prif Weinidog Prydain.
“Mae’r porthladdoedd rhydd hyn yn dangos y gwaith caled sy’n cael ei wneud ddydd ar ôl dydd i ddod â swyddi newydd bras i gymunedau ledled Cymru a gwireddu fy addewid i dyfu’r economi.”
Ac roedd gan Mark Drakeford gân debyg i’w chanu, gan roi’r pwyslais ar y potensial i greu swyddi sy’n eco-gyfeillgar.
“Mae gan Lywodraeth Cymru amcan clir i weddnewid economi Cymru a chreu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach.
“Bydd dynodi safleoedd porthladdoedd rhydd Cymru’n hwb i wireddu’r amcan hwnnw gan adeiladu ar y buddsoddiadau a’r partneriaethau pwysig rydym wedi’u datblygu yn y rhanbarthau hyn dros gyfnod o lawer o flynyddoedd.”
Creu swyddi yn hynod bwysig
Mae Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn, yn cyfaddef bod y ffigwr o 20,000 o swyddi newydd i’r ynys yn uchelgeisiol, ac yn mynnu ei bod yn “bwysig pwysleisio fyswn ni ddim yn addo ein bod ni am gyrraedd o”.
Dywedodd bod yr isafswm o 3,500 o swyddi newydd yn ffigwr mwy realistig i edrych arno i gychwyn arni.
“Beth sy’n bwysig ydi bod ni’n anelu i greu swyddi o ansawdd ar y safle,” meddai Llinos Medi.
Ar ddiwrnod olaf mis Mawrth caewyd y ffatri prosesu ieir 2 Sisters yn Llangefni yn swyddogol, gan arwain at golli tua 700 o swyddi yn yr ardal.
Roedd cau’r ffatri’n rhoi pwyslais ar yr angen am swyddi newydd, meddai Arweinydd y cyngor sir, ond bod y nod o greu 20,000 yn y porthladd rhydd “yn mynd i gymryd rhai blynyddoedd i’w cyrraedd”.
Yn ôl Llinos Medi, mae’n bwysig cael cymysgedd o gwmnïau bach lleol a rhai rhyngwladol yn Ynys Môn.
“Os oes yna gwmnïau byd eang sydd eisiau sefydlu eu hunain ar y safle, a’u bod nhw’n gallu plethu i’w gilydd a chydfyw â busnesau cynhenid Môn, mae hwnnw’n nod ac yn gosod uchelgais.”
Mae ofnau y bydd busnesau yn symud i’r porthladdoedd rhydd o ardaloedd eraill o Gymru, er mwyn talu llai o dreth, ac mae Llinos Medi eisiau osgoi hynny.
“Dw i ddim eisiau mygu na llwgu fy nghymydog, mae’n bwysig iawn mai datblygu ac nid symud economi’r ydan ni,” meddai.
Mi fydd £26miliwn o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar sefydlu’r porthladd rhydd ym Môn.
Fodd bynnag, oherwydd cynnydd mewn costau datblygu a chynllunio dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Llinos Medi yn credu y bydd “yn anodd iawn cadw o fewn yr amlen £26m”.
“Mi ddaw hynny’n fwy amlwg wrth roi’r cynllun busnes at ei gilydd rŵan, adeg yna fydd rhywun yn gallu amlygu os ydi o’n ddigon neu beidio.
“Gobeithio daw buddsoddiad y sector breifat i mewn hefyd er mwyn ychwanegu at fuddsoddiad y sector cyhoeddus.”
Angen canolbwyntio ar gwmnïau lleol
Mae gan Tegid Roberts brofiad o wneud gwaith ymchwil ar gyfer y Senedd a Llywodraeth Cymru ac mae nawr yn gweithio gyda’r cwmni ymgynghori CADARN, sy’n arbenigo ar ymchwil yn y byd cyllid.
Dywedodd wrth Golwg bod ganddo ei bryderon o ran effeithiolrwydd y porthladdoedd rhydd.
“Efo lefelu i fyny, be ti’n drio wneud yw trio cael bob ardal o Gymru i gael yr un siawns i gynyddu’r cwmnïau bychan sydd yno,” meddai.
“Beth mae’r porthladdoedd rhydd yn wneud ydy rhoi arian ac argysoni trethi mewn ardaloedd bychan o Ynys Môn a Phort Talbot. Ond beth sy’n digwydd i Bowys, Casnewydd, Abertawe a Chaerdydd hyd yn oed?”
Yn ôl Tegid Roberts fe fydd angen “rhoi arian mawr i mewn” os yw’r porthladdoedd am lwyddo i ddenu cwmnïau newydd i’r ardal, ac mae’n dadlau na fydd y £26m fydd yn cael ei wario ar bob porthladd “yn agos i ddigon”.
“Mae’r math o brosiectau maen nhw’n siarad am, hynny yw, ynni adnewyddadwy a ffermydd gwynt ar y môr, yn gwmnïau sy’n gwneud gymaint o arian ar y foment – tydyn nhw ddim angen yr arian.”
Awgrymodd mai cefnogi cwmnïau bach lleol a chwmnïau mawr sydd wedi symud i Gymru ddegawdau yn ôl yw’r ffordd ymlaen.
“Mae yna fanteision mawr dw i’n meddwl o edrych ar ôl cwmnïau felly oherwydd maen nhw’n dueddol o hyfforddi pobl yn dda a chreu lot o swyddi go-lew.
“Ond beth ddylen ni ddim gwneud yw gwario biliynau yn trio denu cwmnïau mawr i fama oherwydd eu bod nhw’n cael eu denu gan grantiau anferth a chyflogau isel.
“Wedyn pan mae’r cyflogau’n mynd yn rhy uchel iddyn nhw maen nhw’n diflannu i rywle arall.
“Dw i ddim yn gweld hynny fel strategaeth tymor hir da o gwbl.”
“Cyfle i greu nifer sylweddol o swyddi”
Fodd bynnag mae Rhun ap Iorwerth yn fwy hyderus wrth drafod y cynllun.
“Dw i’n credu bod yna gyfle yma i greu nifer sylweddol o swyddi,” meddai Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru ac Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn.
“Mae angen bod yn ofalus o ran peidio rhoi gormod o sylw i rai o’r ffigyrau o ran creu swyddi, oherwydd nid yn unig ydyn nhw’n frawychus i lefydd gwledig fel ni, ond maent hefyd yn sôn am gyfanswm swyddi ardal eang dros o gwmpas 15 mlynedd.
“Mae yna ddatblygiadau ym maes ynni adnewyddadwy ar y môr, er enghraifft, dw i’n meddwl mewn blynyddoedd i ddod gall greu cyfleoedd cyflogaeth sylweddol.”
Yn ôl Rhun ap Iorwerth mae’r £26m sydd wedi ei gynnig ar gyfer porthladd rhydd Môn yn gam mawr o’r £8m roedd Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi ei gynnig yn y man cyntaf.
“Roedd rhai yn barod i dderbyn yr £8m tra’r oedd Lloegr yn cael cynnig £26m ar gyfer pob porthladd rhydd.
“Beth wnes i oedd mynnu bod rhaid i ni gael yr un cynnig a dw i’n ddiolchgar iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cyd-fynd efo fi ar hynny,” meddai.
Disgrifiodd y swm fel “abwyd er mwyn trio denu llawer mwy o fuddsoddiad ar ben hynny”.
Dywedodd bod rhai yn bryderus y bydd busnesau yn symud o ardaloedd eraill i mewn i ardal y porthladd rhydd er mwyn “gwneud yn fawr o’r cyfleoedd o ran rheolau gwahanol”.
“Y gwirionedd am hynny yw nad yw’n gwneud gweithgaredd economaidd ychwanegol, dim ond ei symud o ardaloedd eraill i mewn i Ynys Môn.
“Felly, mae’n rhaid trio gwneud yn siŵr ein bod ni’n canolbwyntio ar greu swyddi sy’n wirioneddol newydd.
“Os edrychwn ni ar ddatblygiadau newydd yn y maes ynni adnewyddadwy yn y môr, er enghraifft, nid tynnu swyddi o lefydd eraill ydan ni yn y fan honno ond creu diwydiant newydd.”
Mae’n gobeithio y bydd y porthladdoedd rhydd yn rhoi hwb ychwanegol i greu swyddi yn y meysydd yma.
“Dangos bod swyddi cyflog uchel yn bodoli yn Sir Benfro”
Mae Joshua Beynon, cynghorydd tros ardal Doc Penfro a Dirprwy Arweinydd y Grŵp Llafur ar Gyngor Sir Benfro, yn obeithiol bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau yn llwyddiant.
“O fy mhrofiadau i o fod yn gynghorydd yn Noc Penfro dros y chwe blynedd diwethaf, un peth sydd wedi dod yn amlwg iawn ydi’r cynnydd mewn [prosiectau] egni adnewyddadwy ac egni morol yn Sir Benfro.
“Fy unig bryder yw bod rhai o’r swyddi caiff eu creu, sef rhai technoleg ac yn y maes peirianneg, yn rhai sgil uchel sy’n dibynnu ar sgiliau sydd ddim yn amlwg iawn yn yr ardal ar hyn o bryd.”
Mae yn hollbwysig, meddai, sicrhau bod disgyblion ysgol yn ymwybodol o’r swyddi fydd yn cael eu creu er mwyn taclo’r broblem o boblogaeth sy’n heneiddio wrth i bobl ifanc symud i ddinasoedd i chwilio am swyddi.
“Mae’n rhaid dangos bod swyddi cyflog uchel yn bodoli yn Sir Benfro, a dangos sut i’w cael nhw,” meddai Joshua Beynon.
Hefyd, meddai, mae angen cyfuno cwmnïau lleol gyda rhai rhyngwladol er mwyn manteisio ar eu harbenigedd unigryw ac uwch-sgilio gweithluoedd lleol.
Trwy wneud yn fawr o’r adnoddau sydd gan Sir Benfro a cheisio denu mewnfuddsoddiadau, mae’n credu bydd modd gwneud y mwyaf o’r porthladd rhydd, a hynny ar gyllideb dynn.