Yn yr Alban y mae’r cynnwrf, wrth i’r heddlu gyrraedd cartref Peter Murrell (a’i wraig, Nicola Sturgeon). Mae Dafydd Glyn Jones wedi cynhyrfu…

“Tipyn o le tua’r Alban yna echdoe. Y dydd y gwelwn ni warchae fel hyn ar dŷ gwleidydd yng Ngymru, byddwn ninnau wedi cyrraedd!” (glynadda.wordpress.com)

Mae John Dixon yn amau fod unoliaethwyr Prydeinig wedi cynhyrfu hefyd o weld trafferthion plaid yr SNP…

“… mae’r unoliaethwyr yn manteisio ar yr hyn a allai fod yn gyfnod byr o haul iddyn nhw yn yr Alban. Ar sail tybiaethau amheus iawn fod y ddadl annibyniaeth yn troi o amgylch personoliaeth y cyn-Brif Weinidog, casgliad o gwynion gwneud a chasineb o bopeth Seisnig, mae’n ymddangos eu bod yn disgwyl i’r llanw droi ac y bydd cefnogaeth i annibyniaeth a’r SNP (sydd heb fod yr un peth yn union) yn troi hefyd a rhoi buddugoliaeth iddyn nhw… Os ydyn nhw wir yn credu hynny, alla’ i ddim meddwl am well amser i Brif Weinidog Lloegr droi a dweud, ‘OK, te. Gewch chi eich ail refferendwm yn yr hydref’.” (borthlas.blogspot.com)

Mewn erthygl hir a chyfoethog ar nation.cymru mae Gareth Wyn Jones hefyd yn poeni am gamdybiaethau dwfn y seici Seisnig…

“Mae ymlyniad at chwedloniaeth ffug yn amlwg yn drychineb i Rwsia a’i goresgyniad yn Wcráin. Efallai fod camdybiaethau Seisnig yn llai dramatig ond mi allen nhw, heb eu herio a’u hailystyried, fod yn ddamniol i ni i gyd a chreu peryglon mawr ar yr ynysoedd hyn a thramor.”

Poeni am ddiwylliant gwleidyddol y Deyrnas Unedig y mae Ben Wildsmith ar yr un wefan – mae’n gweld hwn yn benllanw tuedd a ddechreuodd yn yr 1980au…

“Rydym yn edrych ar lygredd rhemp ac aneffeithiolrwydd San Steffan fel petai trwy delescop, yn ceisio dyfalu faint ohono sy’n mynd i effeithio ar fywyd yma yng Nghymru, yn methu â deall sut y mae pobol fel yna’n cyrraedd safleoedd cyfrifol. Rydym yn edrych o’n cwmpas ar wasanaethau cyhoeddus sydd mewn trafferth a busnesau lleol sy’n methu, ond yn clywed gan y cyfryngau yn Llundain mai ein gwir ofalon yw cychod bach neu a fydd Harry a Meghan yn mynd i’r Coroni.”

Yn ôl yn yr Alban, mae Mike Small yn poeni am bethau fel cychod bach, yn sicr o ran agweddau gwleidyddion atyn nhw a hil… ac, yn benodol, ddatganiadau’r Ysgrifennydd Cartref ynghylch cam-drin plant a gangiau honedig o gefndir Pacistanaidd…

“Wrth gyflwyno’i dadleuon ymfflamychol ac anghywir, y cyfan y mae [Suella] Braverman yn ei wneud ydi cryfhau’r dde eithafol a’r unig enillwyr yn y gêm beryglus yma yw ffigurau fel Tommy Robinson; ar yr un pryd mae hefyd yn creu’r posibilrwydd o enillion etholiadol i Blaid Reform Nigel Farage. Ond yr hyn sy’n ddychrynllyd, ddychrynllyd o anghywir fan hyn yw gallai dioddefwyr/goroeswyr ecsploetio plant, sy’n cael eu defnyddio yn ddarnau rhad yng ngêm y llywodraeth, fod mewn mwy o beryg… Mae hynna’n anfaddeuol.” (bellacaledonia.org.uk)