Bu dadlau brwd ynghylch penderfyniad Cyngor Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i roi’r fwyell i’w harwyddair – ‘Byd gwyn fydd byd a gano, Gwaraidd fydd ei gerddi fo’.

Roedd y Cyngor yn barnu bod modd cyfieithu ‘byd gwyn’ i ‘white world’ ar apiau ac offer cyfieithu ar-lein, ac nad yw’r ystyr yn “ddigon clir”.