Mae rygbi yn gamp sydd wedi cael ei rhycio yn rhacs ym misoedd cyntaf 2023, ac wedi bod o fewn trwch lastig jocstrap i ddiflannu dros erchwyn y dibyn.

Bu dyfodol rygbi proffesiynol yn y fantol oherwydd trafferthion ariannol, datgelwyd bod yna agweddau ofnadwy tuag at ferched a hoywon ymhlith rhai o staff Undeb Rygbi Cymru, ac roedd canlyniadau Chwe Gwlad y dynion yn siomedig iawn.

Ond mae yna sawl llygedyn o obaith.