Rwy’n cwympo mewn cariad am y tro cyntaf ers 2019. Mae’n codi ofn enfawr arnaf.

Rydw i wedi bod yn mwynhau bywyd o ryddid, annibyniaeth a mwynhau’r ‘ffantasi’ o berthynas heb orfod ymrwymo fy hunan i’r gwaith o gynnal perthynas am y tro cyntaf ers diwedd 2021. Mae gen i fywyd llawn a phrysur, ac wrth i bobl ofyn i mi ‘wyt ti gydag unrhyw un ar y foment?’, rydw i wedi gallu fod yn hyderus wrth ateb: ‘Na, a sdim amser gyda fi beth bynnag!’