I fod yn onest, dydy hi ddim wedi bod yn dymor da i bêl-droed domestig yma yng Nghymru.

Mae’r Seintiau wedi ennill yr Uwch Gynghrair unwaith eto heb orfod wynebu unrhyw gystadleuaeth ddifrifol, ac mae’r trwbwl diweddar oddi ar y cae wedi denu sylw gwasg sydd ddim fel arfer yn cymryd unrhyw ddiddordeb ym mhêl-droed Cymru.