Mae Plaid Cymru’n galw am reoliadau i orfodi archfarchnadoedd i’w gwneud hi’n hawdd i gwsmeriaid ddewis cig o Gymru.

Yn ôl Llŷr Gruffydd, llefarydd amaeth y blaid, byddai cyflwyno rheoliadau i roi’r grym i siopwyr gefnogi ffermwyr yn rhoi hwb i’r sector amaeth yng Nghymru.

Mae’n galw ar archfarchnadoedd i helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i gynnyrch cig o Gymru wrth siopa ar-lein, ac i labelu tarddiad eu cig yn glir ar gyfer gwasanaethau ar-alw.

Daw’r alwad ar ddiwrnod cyntaf Sioe Llanelwedd heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 24).

Mae Llŷr Gruffydd a Ben Lake, llefarydd amaeth y blaid yn San Steffan, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig i’w hannog i gyflwyno rheoliadau i sicrhau bod gan gwsmeriaid fynediad at fwy o dryloywder pan ddaw i le mae cig yn cael ei gynhyrchu.

Dywed y ddau y dylai cwsmeriaid gael yr hawl i ddewis o le mae eu cig yn dod.

Wrth siopa mewn archfarchnadoedd, gall cwsmeriaid chwilota er mwyn dod o hyd i labelau sy’n nodi bod cynnyrch yn dod o’r Deyrnas Unedig, ond mae hyn yn fwy anodd ar-lein, gan fod rhaid chwilota’n eang neu fewnbynnu geiriau allweddol.

Mae pa mor hawdd yw hi i ddod o hyd i darddiad cig ar-lein yn amrywio o un archfarchnad i’r llall hefyd.

Mae’r gallu i ddod o hyd i darddiad cig yn bwysicach nag erioed yn sgil Cytundebau Masnach Rhydd diweddar, fydd yn dileu tariffau ar gynnyrch amaethyddol sensitif dros gyfnod o amser, gan wneud cig o Awstralia a Seland Newydd yn haws i’w gael yn y siopau, gan effeithio ar ffermwyr o Gymru.

‘Cefnogi ffermwyr a’u hymdrechion i hybu cig Cymreig’

“Ar ddiwrnod cynta’r Sioe Amaethyddol Frenhinol, mae Plaid Cymru’n falch o gefnogi ffermwyr a’u hymdrechion i hybu cig Cymreig,” meddai Llŷr Gruffydd.

“Wrth brynu yn y siop, bydd nifer ohonom yn dewis cig Cymreig sy’n aml yn hawdd i’w adnabod ar y silffoedd.

“Mae realiti ein bywydau prysur yn golygu bod mwy a mwy yn dewis siopa ar-lein, lle mae diffyg system hidlo hawdd yn golygu nad yw hi mor hawdd dewis cig Cymreig.

“Mae hyn yn tanseilio gwaith caled ffermwyr Cymreig sy’n ymfalchïo mewn cynhyrchu cig o’r safon uchaf.

“Ynghyd â Ben Lake, dw i wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y mater pwysig hwn.

“Rydym yn credu bod tryloywder a grymuso’n mynd law yn llaw.

“Drwy gyflwyno rheoliadau newydd sy’n mandadu archfarchnadoedd i alluogi hidlo cig yn hawdd yn ôl gwlad ei darddiad, gallwn rymuso siopwyr i gefnogi ffermwyr lleol a chryfau’r sector amaethyddol yng Nghymru.”