Bydd y Sioe Frenhinol yn “lle delfrydol” i barhau â thrafodaethau am ddyfodol ffermio a chymunedau gwledig, medd Gweinidog Materion Gwledig Cymru.

Wedi i Fil Amaethyddiaeth (Cymru) gael ei basio’n ddiweddar, prif themâu presenoldeb Llywodraeth Cymru yn y Sioe fydd sut y bydd yn siapio’r dyfodol.

Mae’r Bil yn disgwyl am Gydsyniad Brenhinol, ac mae gwaith ar y gweill ar ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar hyn o bryd.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn canolbwyntio ar sut i fod yn berchennog cyfrifol ar gi, a bydd gwybodaeth ar gael am les anifeiliaid.

Bydd miloedd o bobol ledled Cymru a thu hwnt yn heidio i faes y Sioe Frenhinol am bedwar diwrnod o ddathliadau amaethyddol fory (Gorffennaf 24).

Dros yr wythnos bydd maes y digwyddiad yn Llanfair-ym-muallt yn gartref i amryw o gystadlaethau, crefftau a chwaraeon o bob math.

‘Dylunio’r cynllun cywir’

Gan edrych ymlaen at y Sioe, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Dyma gyfnod allweddol i’r diwydiant amaeth a’n cymunedau gwledig wrth inni symud tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.  Byddwn yn ymgynghori ar y cynllun tua diwedd y flwyddyn hon, ac yn cyhoeddi’r cynllun terfynol yn 2024.

“Drwy weithio gyda’n gilydd mae gennym gyfle unigryw na chawn ei debyg eto yn ein hoes i ddylunio’r cynllun cywir i ffermwyr ac i Gymru.

“Rwyf am gadw ffermwyr ar y tir, yn cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gan ymdrin â’r argyfyngau hinsawdd a natur ar yr un pryd.

“Mae’r Sioe’n rhoi cyfle inni barhau â’n trafodaethau am y dyfodol, ac i ffermwyr gyflwyno eu safbwyntiau gwerthfawr.

“Byddwn yn annog pawb i alw heibio pafiliwn Llywodraeth Cymru i ddarganfod mwy am ein cynlluniau ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru.

“Hoffwn ddymuno’n dda i drefnwyr y Sioe Frenhinol wrth iddynt ddechrau ar Sioe arall o safon fyd-eang, y mae miloedd yn ei charu ac yn ymweld â hi.”