Mae cynllunwyr wedi cymeradwyo cynllun i godi 41 o dai fforddiadwy i fynd i’r afael â’r “argyfwng tai lleol” mewn tref ar gyrion Eryri.

Ond roedd pwy ddylai gael y tai wedi arwain at ffrae pan drafododd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd y cynllun.

Roedd rhai cynghorwyr eisiau i drigolion Penrhyndeudraeth yn unig gael y tai – “nid pobol o’r tu allan” – oedd yn cynnwys rhai o lefydd eraill yn y sir, gan gynnwys Bangor a Chaernarfon.

Fodd bynnag, yn y cyfarfod ar Orffennaf 17, fe wnaeth swyddogion cynllunio egluro y byddai’r tai yn cael eu dosbarthu yn unol â pholisi dosbarthu tai y Cyngor ac anghenion tai.

Byddai’r cartrefi’n gymysgedd o wahanol feintiau a mathau, ac yn cael eu hadeiladu ar dir gyferbyn â Threm y Moelwyn ym Mhenrhyndeudraeth.

Bodloni gofynion

Cafodd y datblygiad ei ystyried yn un “derbyniol” gan y byddai’n darparu 41 o dai fforddiadwy – gan fynd y tu hwnt i’r gofyniad o 10% o dai fforddiadwy, fyddai wedi golygu pedwar cartref yn unig.

Roedd y datblygiad tai hefyd yn uwch na dosbarthiad tai Penrhyndeudraeth, ond roedd hyn yn cael ei ystyried yn “dderbyniol” o ganlyniad i “angen lleol am dai” a “diffyg darpariaeth gymdeithasol”, meddai’r swyddog cynllunio Keira Sweenie.

Byddai’r cynigion yn cynnwys ffordd newydd hygyrch i’r ystad, a chafodd ei leoli ar dir sydd wedi’i ddosbarthu ar gyfer tai o fewn Cynllun Datblygu Lleol Môn a Gwynedd ar y cyd.

Byddai’r tai yn cael eu darparu gan landlordiaid cymdeithasol, gyda Grŵp Cynefin yn rheoli 19 o dai a Chlwyd Allan yn rheoli 22.

Ni fyddai unrhyw effaith weledol ar dai cyfagos, ac roedd y tai yn cael eu hystyried yn ddigon “safonol” a “buddiol” i’r ardal.

Roedd y dyluniad “i’w groesawu”, a byddai’n sicrhau “safon byw da i drigolion”.

Cafodd pryderon eu codi ynghylch mynediad, ond doedd dim pryderon am ddiogelwch y ffyrdd ac roedd “digon o gapasiti” wedi cael ei nodi o ran ysgolion lleol.

Byddai’r datblygwyr hefyd yn gwneud cyfraniad ariannol i wella safle chwarae lleol.

Argymell cymeradwyo’r cynlluniau

Roedd swyddogion cynllunio wedi’u bodloni, ac yn argymell fod y pwyllgor yn cymeradwyo’r cais.

Siaradodd Jamie Bradshaw am dair munud, gan ddweud y byddai’r cynllun yn sicrhau “datblygiad tai hollol fforddiadwy, cymysgedd gofalus, wedi’i ddewis i ddiwallu anghenion lleol”.

Nododd fod 400 o aelwydydd ar y rhestr aros am dai, ac y byddai’r tai yn gwneud “cyfraniad lleol sylweddol i fodloni’r argyfwng tai lleol”.

Cefnogodd y Cynghorydd Meryl Roberts y cais, gan ddweud bod y Cyngor Tref eisiau gwybod “a fyddai pobol o Benrhyn yn cael cynnig cyntaf ar y tai, nid pobol o’r tu allan, dyna’r peth sy’n ein poeni ni fwyaf”.

Fe wnaeth y Cynghorydd Elwyn Edwards gynnig y cynllun, gan ofyn am sicrwydd “y byddai pobol o Benrhyn yn cael y tai”.

Eglurodd y swyddog cynllunio Gareth Jones y gallai’r tai gael eu dosbarthu yn ôl polisi dosbarthu’r Cyngor yn unig.

“Ond onid ydy hynny’n cynnwys Gwynedd gyfan?” gofynnodd y Cynghorydd Elwyn Edwards.

Dywedodd Gareth Jones fod y polisi dosbarthu’n rhoi ystyriaeth i amryw o faterion, megis lleoliad a chysylltiad â’r ardal, a gwerthusiadau dosbarthu eraill.

Fe wnaeth y Cynghorydd Ann Lloyd-Jones eilio’r cynnig, gan ddweud, “Fedrwch chi ddim gosod amod fod y tai ar gyfer pobol o Benrhyn yn unig”.

“Fedran nhw ddim adeiladu ym Mhort bellach oherwydd llifogydd, felly mae’n bosib y bydd pobol o Borthmadog o dod drosodd,” meddai.

“Cyhyd ag y bo’n bodloni polisïau Gwynedd ar gyfer pobol leol, dw i’n hapus i eilio’r cynnig.”

Fe wnaeth y Cynghorydd Gruff Williams gwestiynu cynnig gwreiddiol y Cynghorydd Elwyn Edwards.

Ond dywedodd y Cynghorydd Elwyn Edwards y byddai’n “cadw ati”.

“Dw i’n hapus os ydy’r tai ar gyfer pobol yn nalgylch Penrhyndeudraeth, gan gynnwys Port, ond nid o bellach i ffwrdd.”

Roedd y Cynghorydd John Puw o’r farn fod y cynllun tai yn “rhy fawr” ac y byddai’n denu pobol o bellach i ffwrdd megis Caernarfon a Bangor.

Ond disgrifiodd Gareth Jones, y swyddog cynllunio, yr “heriau” ym Mhorthmadog o ganlyniad i faterion yn ymwneud â llifogydd, gan ddweud y byddai angen i’r cynllun fforddiadwy o 41 o dai ym Mhenrhyn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r anghenion tai o bellach i ffwrdd.

Mewn pleidlais, roedd deg o blaid, doedd neb wedi atal eu pleidlais, ac roedd dau yn erbyn, ac felly bydd y tai yn mynd rhagddynt.