Mae’r pleidiau sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia yn llygadu cyfle yn Sbaen yn dilyn canlyniadau’r etholiad cyffredinol.
Plaid y Bobol enillodd yr etholiad, ond heb fwyafrif clir, ond mae Junts per Catalunya eisoes wedi wfftio’r posibilrwydd o gydweithio â nhw i ffurfio llywodraeth.
Yn ôl Jordi Turull, ysgrifennydd cyffredinol Junts, mae’r canlyniadau wedi creu “ffenest o gyfleoedd” i’r blaid wrth iddyn nhw geisio gwireddu’r uchelgais o sicrhau annibyniaeth.
Dywed fod refferendwm annibyniaeth yn allweddol er mwyn datrys y gwrthdaro parhaus rhwng Catalwnia a Sbaen, ac fe allai Junts fod yn allweddol i obeithion y Prif Weinidog Pedro Sanchez o ffurfio llywodraeth.
Canlyniadau
Y Sosialwyr enillodd y rhan fwyaf o’r pleidleisiau yng Nghatalwnia o gryn dipyn.
Tra eu bod nhw’n ail ledled Sbaen y tu ôl i Blaid y Bobol, maen nhw wedi gwella’u perfformiad yng Nghatalwnia, gan ennill 19 o seddi o gymharu â deuddeg yn 2019.
Daethon nhw i’r brig mewn tair talaith yng Nghatalwnia, sef Barcelona, Tarragona a Lleida, ac fe wnaethon nhw efelychu Junts yn Girona.
Ond ar y cyfan, colli 770,000 o bleidleisiau wnaeth y pleidiau annibyniaeth ar y cyfan, ac enillodd Sumar 25,000 yn fwy o bleidleisiau nag Esquerra, sydd wedi colli chwe sedd ers 2019.
Ac mae Junts wedi colli un o wyth sedd ar y cyd â PDeCat, a gallai eu seddi nhw fod yn allweddol wrth geisio mwyafrif yn y senedd.
Yn ôl y pleidiau dros annibyniaeth, mae Llywodraeth Sbaen bellach yn wynebu “penbleth” gan y bydd angen iddyn nhw barchu Catalwnia os ydyn nhw am geisio’u cymorth yn y llywodraeth.
Clara Ponsatí yn mynd adref
Yn y cyfamser, mae Clara Ponsatí o blaid Junts per Catalunya wedi dychwelyd adref i Gatalwnia ar ôl bod yn alltud.
Mae hi’n aelod o Senedd Ewrop ers 2019, ond bu’n byw’n alltud yn yr Alban a Gwlad Belg ers rhai blynyddoedd.
Mae hi’n wynebu cael ei harestio am iddi beidio mynd i’r llys ym mis Mawrth, a dydy hi ddim yn bwriadu mynd at yr heddlu o’i gwirfodd, meddai.
Fe wnaeth y barnwr gyhoeddi gwarant i’w harestio yn niwedd mis Mawrth, a hynny am ei rhan yn refferendwm annibyniaeth Catalwnia yn 2017.
Does gan yr ymgyrchwyr tros annibyniaeth ddim imiwnedd erbyn hyn.