Mae Wisgi Cymreig Brag Sengl, sy’n un o wirodydd mwyaf poblogaidd Cymru, bellach wedi’i ddiogelu’n swyddogol ar ôl sicrhau statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig y Deyrnas Unedig.
Dyma’r gwirod newydd cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ennill statws Dynodiad Daearyddol ers lansio Dynodiad Daearyddol y Deyrnas Unedig, a dyma hefyd wirod Dynodiad Daearyddol cyntaf Cymru.
Wisgi Cymreig Brag Sengl bellach yw’r ugeinfed aelod o deulu cynhyrchion Dynodiad Daearyddol Cymru, gan ymuno â chynnyrch gwych eraill fel Enw Tarddiad Gwarchodedig Halen Môr Môn, Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Cig Oen Cymru, Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Cig Eidion Cymru a Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Cennin Cymru.
Cafodd y cynllun Dynodiad Daearyddol y Deyrnas Unedig ei sefydlu ar ddechrau 2021, ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’n sicrhau y gall rhai cynhyrchion bwyd a diod barhau i gael eu gwarchod yn gyfreithiol rhag eu dynwared a’u camddefnyddio.
Diwydiant wisgi Cymru
Mae diwydiant wisgi Cymru wedi ehangu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ers adfywio ac ail-lansio ‘Wisgi Cymreig Brag Sengl’ gan ddistyllfa Penderyn ar Fawrth 1, 2004.
Mae’r galw am ‘Wisgi Cymreig Brag Sengl’ yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
Mae’r cynnydd yn nifer y cynhyrchwyr Wisgi yng Nghymru wedi arwain at gasgliad o bedair distyllfa yng Nghymru yn rhan o’r cais terfynol am statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig – Penderyn, In the Welsh Wind, Da Mhile, a Coles.
“Mae’n newyddion gwych bod Wisgi Cymreig Brag Sengl wedi ymuno â theulu Dynodiad Daearyddol Cymru gyda’i enw bellach wedi’i ddiogelu,” meddai Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Cymru.
“Mae’r diwydiant wisgi yng Nghymru yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan chwarae rhan bwysig yn y sector bwyd a diod yma yng Nghymru.
“Rwy’n falch iawn dros bawb sy’n ymwneud â chael y statws pwysig hwn gan sicrhau bod y cynnyrch gwych hwn yn ennill y gydnabyddiaeth a’r bri y mae’n ei haeddu.”
‘Carreg filltir arwyddocaol’
“Mae cael statws Dynodiad Daearyddol y Deyrnas Unedig ar gyfer Wisgi Cymreig Brag Sengl yn garreg filltir arwyddocaol i Benderyn fel cynhyrchydd, a hefyd i’r diwydiant wisgi ehangach yng Nghymru,” meddai Stephen Davies, Prif Weithredwr Penderyn.
“Mae’n helpu i ddiogelu ansawdd y cynnyrch a hefyd ei ffynhonnell wreiddiol.
“Mae’n gam cyffrous ymlaen ac yn un sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant sydd wedi tyfu’n gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf.”
Mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn gwneud cyfraniad sylweddol i economi bwyd a diod Cymru, ac erbyn hyn mae’n un o allforion mwyaf dylanwadol Cymru, sy’n cael ei allforio i fwy na 45 o wledydd ar hyn o bryd.
Mae disgwyl y bydd yn cynhyrchu refeniw o £23m yn y flwyddyn ariannol bresennol, gan gynnwys gwerthiannau domestig, allforio a manwerthu teithio.
Mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn cyfuno treftadaeth hir cynhyrchu wisgi gydag ymagwedd arloesol at ddistyllu, gan gynnig ystod eang o flasau ac arddulliau.
Mae cynhyrchu wisgi Cymreig hefyd yn bwysig i dwristiaeth gyda’r holl ddistyllfeydd presennol yng Nghymru ar agor fel atyniadau i dwristiaid.
‘Newyddion gwych i wisgi Cymreig’
“Mae’r newyddion fod Wisgi Cymreig Brag Sengl wedi derbyn statws PGI yn newyddion gwych i wisgi Cymreig, a bydd yn arddangos y gorau o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig,” meddai Samuel Kurtz, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig.
“Gydag ychwanegiad y wobr fawreddog hon, bydd y diwydiant wisgi yng Nghymru’n derbyn hwb sylweddol, ynghyd â buddion i economi Cymru.
“Dw i’n edrych ymlaen at weld rhai o’r distyllwyr yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol yr wythnos hon a’u llongyfarch nhw drosof fy hun am eu llwyddiant wrth hybu’r cynnyrch Cymreig unigryw hwn.”