Dydy cynllun y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd yn Gymraeg yn ddim mwy na geiriau, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Cafodd y Cynllun Pum Mlynedd ‘Mwy na Geiriau 2022-2027’ ei gyhoeddi ar Awst 2 y llynedd.
Ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith, does dim tystiolaeth iddo gael ei weithredu.
“Wrth drafod eich gweledigaeth am ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg, roeddech yn cydnabod bryd hynny bod angen ‘cynnig mwy, a hynny’n gyflymach’,” meddai’r Gymdeithas yn eu llythyr at Eluned Morgan.
“Mae’n ymddangos bellach mai geiriau gwag oedd y rhain wrth i chi fethu gwireddu eich nod i sefydlu bwrdd cynghori newydd yn ystod 2022 i arwain y cynllun, gan achosi oedi difrifol i’r rhaglen waith.”
Creu bwrdd cynghori oedd un o gamau cyntaf y cynllun, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn holi pryd fydd y bwrdd yn cael ei benodi, a beth fydd effaith yr oedi ar weddill yr amserlen ar gleifion.
“Mae’r fath oedi’n achosi pryder cynyddol i ni fel Cymdeithas ac anobaith llwyr i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth ar draws Cymru sydd wir angen cael mynediad uniongyrchol at driniaeth a gofal o’r ansawdd gorau sy’n diwallu eu hanghenion iaith,” meddai’r Gymdeithas.
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ym mlwyddyn gyntaf ein cynllun pum mlynedd, ‘Mwy na Geiriau’, gan gynnwys cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth Gymraeg gorfodol i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a datblygu canllawiau cynllunio’r gweithlu ar gyfer sgiliau Cymraeg,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae safonau’r Gymraeg wedi eu gosod ar reoleiddwyr iechyd ac mae gwaith wedi dechrau i osod tiwtoriaid o fewn byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i greu siaradwyr Cymraeg hyderus.
“Byddwn yn cyhoeddi aelodaeth o’r bwrdd Cynghori yn yr Eisteddfod fis nesaf ac yn yr hydref byddwn yn cyhoeddi adroddiad cynnydd ar flwyddyn gyntaf y cynllun.”