Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymrwymo i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg, wrth iddyn nhw lansio polisi newydd ar Faes y Sioe yn Llanelwedd.

Daw hyn wrth iddyn nhw dderbyn y Cynnig Cymraeg.

Maen nhw wedi cyhoeddi cyfres o fentrau newydd cyffrous i wella’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y sefydliad, gyda’r polisi gafodd ei lansio gan y Prif Weithredwr dros dro Nigel Walker yn ymrwymo i gynnydd sylweddol yn eu darpariaeth iaith Gymraeg.

Bydd prif gyhoeddiadau’r Undeb, gan gynnwys y prif ddatganiadau i’r wasg, adroddiadau gemau rhyngwladol a straeon newyddion mawr eraill ar gael yn Gymraeg a Saesneg, a bydd cynnydd yn nefnydd y Gymraeg yn fewnol hefyd yn cael ei argymell a’i annog.

Mae ymrwymiad cadarn i arwyddion newydd a pherthnasol o amgylch Stadiwm Principality fod yn ddwyieithog a bydd cyhoeddiadau a chyfathrebiadau eraill Undeb Rygbi Cymru, gan gynnwys rhaglenni gemau rhyngwladol ac amrywiaeth o ddarpariaeth ar-lein, yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

‘Ymrwymiad dyddiol’

“Mae ystyried a hyrwyddo’r Gymraeg ym mhopeth a gynigiwn i’n cyhoedd yn ymrwymiad dyddiol i sefydliad sydd wrth galon ein cenedl,” meddai Nigel Walker.

“Byddwn yn gwella ein darpariaeth a’n gwasanaethau ac yn croesawu’r cyfleoedd newydd y bydd hyrwyddo’r Gymraeg yn eu cynnig i ni a’n cefnogwyr.”

Mae’r Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth gan y Comisiynydd gaiff ei roi i sefydliadau sydd â chynllun cryf sydd wedi ymrwymo i wella eu hymgysylltiad â’r cyhoedd drwy ddangos pa mor falch ydyn nhw o gynnig gwasanaethau yn Gymraeg.

“Hoffwn alluogi mwy o bobol i ddefnyddio’u Cymraeg yn eu bywydau bob dydd,” meddai Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg.

“Er mwyn sicrhau hynny mae angen i’r Gymraeg gael ei chlywed yn naturiol ymhobman, boed hynny yn gymunedol, yn y maes celfyddydol ac wrth gwrs yn y byd chwaraeon.

“Mae Undeb Rygbi Cymru yn chwarae rhan fawr ym mywyd Cymru – ac rwy’n croesawu’n fawr yr ymrwymiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw i’r Gymraeg.

“Rwy’n arbennig o falch o allu rhoi cymeradwyaeth i’w Cynnig Cymraeg, ac edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos gyda’r Undeb wrth i’w cynlluniau gael eu datblygu.”

Cydweithio

Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd yn gweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu ystod o hyfforddiant Dysgu Cymraeg i’w staff.

Bydd y Ganolfan Genedlaethol yn darparu cyrsiau wedi’u teilwra, dan arweiniad tiwtor, i dros 100 o aelodau staff sydd wedi dweud eu bod nhw eisiau dysgu’r iaith neu gryfhau eu sgiliau Cymraeg.

Bydd hyfforddiant ar wahanol lefelau dysgu, o ddechreuwyr i godi hyder, a bydd modd i staff gael mynediad at dros 1,500 o adnoddau dysgu digidol rhad ac am ddim gafodd eu datblygu gan y Ganolfan.

Bydd sesiwn flasu rad ac am ddim, ar thema rygbi, yn cael ei chynnal yn rhithiol gan y Ganolfan Genedlaethol ar Fedi 6, fel rhan o’r fenter newydd. Mae’r sesiwn yn agored i bawb.

“Mae’r Ganolfan Genedlaethol yn falch o weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i greu cyfleoedd newydd i bobl ddysgu a mwynhau’r Gymraeg yn ystod y cyfnod yn arwain at Gwpan Rygbi’r Byd, a thu hwnt,” meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac mae croeso i bawb ddysgu’r iaith gyda ni.

“Byddwn yn datblygu rhaglen benodol o hyfforddiant i gefnogi dysgwyr o’r gymuned rygbi, a dan ni’n edrych ymlaen hefyd at gefnogi tîm rygbi Cymru dros y misoedd nesaf.”