Mae Rygbi Caerdydd wedi cyhoeddi ymadawiad eu Cyfarwyddwr Rygbi Dai Young.

Cafodd ei ddiarddel o’i waith yn sgil honiadau o fwlio yn gynharach eleni, ond daeth barnwr i’r casgliad yn dilyn ymchwiliad nad oedd sail i’r honiadau.

Serch hynny, dywed rhanbarth y brifddinas fod y sefyllfa wedi achosi tyndra yn y berthynas rhyngddyn nhw a Young.

Roedd Young yn gwadu’r honiadau.

Mae Rygbi Caerdydd wedi diolch iddo am “ei gyfraniad diweddaraf” dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Fe arweiniodd e’r rhanbarth i’r safle uchaf gan ranbarth o Gymru yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, a lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Dywed Rygbi Caerdydd y byddan nhw’n chwilio am ei olynydd a thîm hyfforddi newydd, gydag ychydig dros dri mis cyn dechrau’r tymor newydd.