Fe wnaeth Marnus Labuschagne, batiwr tramor tîm criced Morgannwg, helpu Awstralia i gadw’r Lludw gydag un gêm yn weddill o’r gyfres yn erbyn Lloegr.

Daeth y pedwerydd prawf i ben yn gyfartal ym Manceinion ar ôl i’r glaw sicrhau na fyddai’n bosib chwarae ar y diwrnod olaf ddoe.

Roedd yn rhaid i Loegr ennill y gêm hon er mwyn ei gwneud hi’n 2-2 yn y gyfres a chadw eu gobeithion yn fyw ar drothwy’r prawf olaf yr wythnos hon.

Ond roedd gêm gyfartal yn ddigon i Awstralia, gan fod cyfres gyfartal yn golygu dal eu gafael ar y Lludw.

Roedd Awstralia’n 214 am bump yn eu hail fatiad, 61 rhediad y tu ôl i Loegr.

Cafodd y seiliau eu gosod yn y batiad cyntaf, pan sgoriodd Labuschagne 51 allan o gyfanswm o 317.

Adeiladodd Lloegr flaenoriaeth swmpus wrth sgorio 592, cyn i Labuschagne daro 111 yn yr ail fatiad er mwyn sicrhau na fyddai modd i Loegr daro’n ôl.

Mae’r Lludw wedi bod yn nwylo Awstralia ers 2017-18, ac maen nhw’n llygadu ennill cyfres yn Lloegr am y tro cyntaf ers 22 o flynyddoedd.

Dydy Lloegr ddim wedi ennill y Lludw ers 2015, a dydyn nhw erioed wedi colli’r ddwy gêm gyntaf yn y gyfres a’i hennill hi yn y pen draw.

Bydd y prawf olaf yn dechrau ar gae’r Oval yn Llundain ddydd Iau (Gorffennaf 28).