Mae Matthew Maynard, prif hyfforddwr tîm criced Morgannwg, yn dweud eu bod nhw’n dal i geisio dyrchafiad, er i’w gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Cheltenham orffen yn gyfartal oherwydd y glaw.

Dywed y byddai wedi bod yn “chwip o gêm” pe bai modd ei chwblhau hi ar ddiwedd pedwar diwrnod rhwystredig i’r sir Gymreig, sy’n llygadu’r ail safle yn yr Ail Adran.

Roedd rhywfaint o sôn y gallai’r ddau dîm fod wedi dod i drefniant er mwyn sicrhau canlyniad positif i’r naill dîm neu’r llall, ond mae Maynard yn credu bod cyfradd belawdau negyddol Swydd Gaerloyw wedi rhoi’r gorau i’r syniad hwnnw.

“Yn ei hanfod, roedd hi’n llain ail ddiwrnod oherwydd yr amser gafodd ei golli oherwydd y tywydd, ac roeddan ni’n poeni am beidio gosod nod hawdd iddyn nhw ar y fath lain ddof a chae sgôr uchel,” meddai.

“Rydan ni wedi chwarae’n dda yn ein gemau dwytha’, ond mae’r tywydd wedi ein rhwystro ni.

“Dydy hi ddim yn siom a thristwch i gyd, oherwydd rydan ni’n dal mewn sefyllfa i gwrso’r ail safle y tu ôl i Durham.

“Bydd timau eraill yn teimlo’r un fath, ond mae gynnon ni gystal siawns â neb.

“Mae gynnon ni ddwy gêm yn erbyn Swydd Derby, un gartref yn erbyn Swydd Efrog ac un oddi cartref yn erbyn Swydd Gaerwrangon.

“Mae’n argoeli’n dda ar gyfer diweddglo cyffrous i’r tymor.”

Manylion y gêm

Tarodd Chris Dent, capten Swydd Gaerloyw, ei unfed canred ar hugain ar y diwrnod olaf.

Cafodd y trydydd diwrnod ei golli’n llwyr i’r glaw, oedd yn golygu mai gêm gyfartal oedd y canlyniad mwyaf tebygol oni bai bod y capteniaid yn dod i drefniant arbennig, oedd yn annhebygol o safbwynt y Saeson.

Aeth y tîm cartref o 134 am un i 402 am chwech cyn cau eu batiad, gyda Dent yn taro 113 oddi ar 206 o belenni, gan gynnwys pymtheg pedwar.

Cyfrannodd Ollie Price 84, Miles Hammond 57 a James Bracey 60 heb fod allan, wrth i’r troellwr coes Mitchell Swepson gipio tair wiced am 142 mewn 37 pelawd.

Roedd Morgannwg yn 62 heb golli wiced yn eu hail fatiad pan ddaeth yr ornest i ben, ac maen nhw’n cipio deuddeg o bwyntiau, tra bod Swydd Gaerloyw wedi ennill 11 o bwyntiau wrth iddyn nhw geisio’u buddugoliaeth pedwar diwrnod gyntaf y tymor hwn.